Mae Pencampwr Cigydd Ifanc Cymru Peter Rushforth wedi llwyddo i amddiffyn ei deitl ar ôl rownd derfynol agos lle canmolodd y beirniaid safon uchel y gigyddiaeth.
Aeth Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug, i’r rownd derfynol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt ar ddydd Llun yn syth ar ôl ennill medal efydd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK yn y Skills Show.
Ar ôl cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth gigyddiaeth Ewropeaidd roedd o’n awyddus i orffen y flwyddyn ar nodyn llwyddiannus
“Yn dod i’r gystadleuaeth fel pencampwr presennol, roedd gen i bopeth i’w golli ac roeddwn i dan bwysau,” meddai. “Roeddwn i’n falch â’m harddangosfa ond dwi’n meddwl bod y safon wedi mynd i fyny’n ddramatig eleni.
“Penderfynais gael dyluniad modern i wneud yr hambyrddau’n greadigol i ddenu cynulleidfa iau oherwydd bod angen mwy o bobl ifanc yn y diwydiant arnom ni.
“Gan edrych yn ôl ar 2015, mae hi wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn ac mae hi’n deimlad gwych agosáu at y Nadolig â’r anrhydedd hwn.”
Enillydd yr ail wobr oedd Tomos Hopkin, 22, o Gwyrhyd Mountain Meat, Rhiwfawr, Abertawe, sydd wedi ennill tair gwaith yn y gorffennol. Dau bwynt yn unig oedd rhwng y ddau uchaf, Enillydd y drydedd wobr oedd Dewi Davies a Jed Jones oedd enillydd y bedwaredd wobr, y ddau’n 18 oed ac yn gweithio i Fwydydd Celtica Cyf, Cross Hands.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei noddi ar y cyd gan Hybu Cymru, Bwydydd Randall Parker, a WMO, Y Trallwng. Derbyniodd Rushforth dlws a siec am £130, a derbyniodd Hopkin dlws a £70.
Cafodd y cigyddion ifanc yn cael eu herio i gynhyrchu arddangosfa o gig mewn dwy awr o grwper uchaf cyfan o Gig Eidion Cymreig, a choes o Gig Oen Cymreig PGI, hanner ysgwydd o Borc Cymreig a chyw iâr Gymreig gyfan o Gefn Llan.
Roedd y beirniaid, Chris Jones o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a Steve Morgans o Morgans Butchers, Aberhonddu, yn chwilio am ddarnau i gynyddu gwerthadwyedd a gwerth y cynnydd gymaint â phosibl, syniadau newydd a chreadigol, techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a’r cynnyrch mwyaf posibl o’r carcasau.
Meddai Mr Morgans: “Roedd y safon yn uchel iawn, iawn ac nid oedd llawer rhwng Peter a Tomos. Dwi’n meddwl bod y safon yn gwella bob blwyddyn a bellach mae sgiliau cigyddiaeth yn cael eu cydnabod oherwydd bod yn rhaid i gigyddion wneud arddangosfeydd cig yn ddeniadol i’r llygad.
“Roedd hefyd yn wych gweld Dewi a Jed yn cystadlu am y tro cyntaf. Maen nhw’n dechrau ar yr ysgol gystadlaethau ac roedd y rownd derfynol yn gyfle dysgu ardderchog iddyn nhw.”
Mae Rushforth, Davies a Jones yn dilyn prentisiaethau, sy’n cael eu darparu gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian â chyllid Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
“Dydw i ddim yn rhy siomedig oherwydd roeddwn i yn erbyn cigydd da iawn sydd newydd gystadlu yn rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK,” meddai Hopkin. “Mae Peter wedi gwella’n sylweddol ers y tro diwethaf i mi gystadlu yn ei erbyn tair blynedd yn ôl.”
Roedd Davies a Jones yn cystadlu am y tro cyntaf. “Roedd llawer yn fwy anodd nag roeddwn i wedi meddwl y byddai i ddechrau,” cyfaddefodd Davies, sy’n byw yn Hendy-gwyn ar Daf. “Gwnes i wir fwynhau’r rownd derfynol a bellach dwi’n anelu at wneud mwy o gystadlaethau.”
Meddai Jones, o Lwynhendy, ger Llanelli: “Dwi wedi dysgu cymaint heddiw a buaswn i wrth fy modd i’w wneud eto.”
Hefyd Rushforth a Hopkin oedd cyd enillwyr yr ail wobr yn rownd derfynol Cigydd Porc Cymru yn y bore, pan ddewisodd y beirniaid Clinton Roberts fel pencampwr, o Ponty Butchers, Pontardawe, a oedd yn meddu ar bwynt a hanner o fantais.
Capsiynau’r lluniau:
Peter Rushforth â’i dlws ac un o’r hambyrddau o gig o’i arddangosfa fuddugol.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, Keith Brown yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar Ffôn: 01982 552100 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.