Mae Blas ar Gymru wedi penodi llywydd ac ysgrifennydd newydd i symud y sefydliad aelodaeth yn ei flaen.
Mae Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn cymryd drosodd fel llywydd gan olynu Colin Gray, rheolwr gyfarwyddwr Capital Cuisine, Bedwas, a fu yn y swydd am ddwy flynedd ac sydd bellach wedi mynd yn is-lywydd .
Yr ysgrifennydd newydd yw’r cogydd a’r beirniad coginio hynod brofiadol, John Retallick o Bencader, ger Caerfyrddin.
Mae Mr Watkins, a wnaeth hyfforddi a mentora Tîm Coginio Cenedlaethol Iau Cymru i’w hunig fedal Aur Olympaidd yn 2004, yn angerddol ynghylch datblygu sgiliau cogyddion Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at yr her newydd hon ac yn gobeithio gallu defnyddio fy arbenigedd wrth ddelio â’r sector cyhoeddus i gysylltu dyheadau Blas ar Gymru gyda dyheadau Bwyd a Diod Cymru a’r dwristiaeth fwyd yng Nghymru,” meddai.
“Hoffwn weld Blas ar Gymru hefyd yn cael llawer mwy o sylw yng Nghymru. Byddwn yn chwilio am gogyddion dawnus ac ymroddedig i gynrychioli Tîm Coginio h?n ac iau Cymru yn y Gemau Coginio Olympaidd yn yr Almaen y flwyddyn nesaf.”
Yn gynharach eleni, camodd Mr Watkins i lawr o’i rôl fel prif ymgynghorydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, lle gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd a phrif weithredwr. Mae’n gyfarwyddwr ac yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Bwyd Prydain ac yn cynrychioli Blas Ar Gymru ar Bwyllgor Cenedlaethol y Gwobrau Gallu Cymhwysol.
Roedd yn allweddol wrth redeg rhaglenni peilot yng Nghymru, a arweiniodd at brentisiaeth ac Uwch Brentisiaeth arloesol, a arweinir gan y grefft i gogyddion gyda Pearson a People 1st.
Yn fab i ffermwr, gadawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ym 1978 er mwyn ymuno â’r fyddin fel cogydd prentis ac mae wedi cynnal ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth ar hyd ei oes gwaith gyda ffocws cryf iawn ar ddatblygu pobl.
Dywedodd Mr Gray ei fod yn falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn ystod ei ddwy flynedd fel llywydd. “Rydym mewn sefyllfa gryfach nag erioed o ran aelodaeth a chefnogaeth gan noddwyr” ychwanegodd. “Yn ogystal, rydym wedi cael nifer uwch nag o’r blaen o geisiadau ar gyfer Cystadlaethau Coginio Rhyngwladol Cymru eleni.
“Un o’r pethau allweddol rydym wedi ceisio’i wneud yw gwneud y gymdeithas yn fwy proffesiynol, tryloyw ac atebol. Rwy’n hyderus y bydd Arwyn bellach yn symud y gymdeithas i’r lefel nesaf.”
Mae Mr Retallick yn feirniad y World Association of Chefs’ Societies (WACS), sydd wedi beirniadu mewn cystadlaethau coginio blaengar ym mhedwar ban byd. Bu’n gadeirydd y beirniad yn Hotel Olympia a’r Sioe Lletygarwch yn Birmingham am dros 20 mlynedd.
Symudodd y cyn Reolwr Tîm Coginio Cymru i Gymru ym 1993 a fe oedd cadeirydd y beirniaid yng Nghystadlaethau Coginio Rhyngwladol Cymru eleni. Yn ystod ei yrfa, bu’n gweithio ar long mordaith y Queen Elizabeth, yn y West End yn Llundain, fel cogydd datblygu ymgynghorol i Gourmet Classic ac addysgodd a darlithiodd yn Ysgol Arlwyo’r Fyddin, Aldershot, Ysgol Goginio Port Rush a Choleg Coginio De Dyfnaint, Torquay.
“Mae gennym rai cogyddion da iawn yng Nghymru ac rwy’n gobeithio cynyddu nifer yr aelodau a fydd yn rhoi’r ffordd ymlaen i’r gymdeithas,” meddai Mr Retallick. “Rydw i wedi cael tipyn o brofiad dros y blynyddoedd yn sgil cymryd rhan mewn cynifer o gymdeithasau a chystadlaethau o gwmpas y byd.
“Rwy’n gyffrous am y swydd newydd hon ac un o’m nodau yw gweithio tuag at wella Cystadlaethau Coginio Rhyngwladol Cymru sydd eisoes yn llwyddiannus ar gyfer y cystadleuwyr.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwyn Watkins, llywydd Blas ar Gymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd ar Ffôn: 01686 650818.