Mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i’r cigydd ifanc o Gymru, Matthew Edwards, ers iddo gyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru yn 2014.
Mae Matthew, 23 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ac wedi’i enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.
A’r penwythnos diwethaf, enillodd y llysgennad ar gyfer prentisiaethau ragbrawf Cymru yng Nghystadleuaeth Genedlaethol gyntaf Worldskills UK mewn Cigyddiaeth. Rhaid iddo nawr aros tan fis Awst i ddarganfod ai fe yw un o’r chwe chigydd uchaf eu sgôr o ragbrofion cyfunol Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd.
Mae Matthew, y g?r diymhongar yn eithaf digynnwrf am y cyfan. Dywed bod y cymwysterau galwedigaethol y mae wedi’u hennill a’r cymorth hyfforddiant y mae wedi’i gael gan ei gyflogwr, Steve Vaughan a’r darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, wedi bod wrth wraidd ei lwyddiant.
Yr hyn sy’n ei gymell yw ei ddymuniad i fod y gorau o fewn ei allu, a’i freuddwyd yw perchen ar y siop y mae’n gweithio ynddi un diwrnod. Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen, mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod ac mae’n bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd er mwyn rhoi iddo’r sgiliau i redeg busnes.
Fel hyrwyddwr cymwysterau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith cryf, dychwelodd Matthew yn ddiweddar i’w hen ysgol, sef Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hob ger Wrecsam i drafod prentisiaethau mewn rôl lysgenhadol.
“Dewisais brentisiaeth er mwyn datblygu fy nealltwriaeth o gigyddiaeth a dysgu popeth y gallaf er mwyn fy helpu i gyflawni fy nod o berchen ar siop gigydd a throsglwyddo fy ngwybodaeth i gigyddion ifanc, brwd eraill,” meddai.
“Rydw i wedi datblygu fy sgiliau trwy ddysgu wrth weithio ac o gael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Heb os, ni fyddwn i yma heddiw heb gymwysterau galwedigaethol a’r gefnogaeth a gefais gan Steve a Helen Vaughan.”
Mae’n cefnogi’r Gwobrau VQ yng Nghymru eleni ar 9 Mehefin a’r diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol. Mae Diwrnod VQ yn ddathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru.
Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod cyn bwysiced i’r economi a’r unigolyn; maen nhw’n cyflawni’r gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau y mae eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.
Mae Gwobrau VQ, a drefnir gan Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), a CholegauCymru, yn helpu arddangos unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. Ariennir y gwobrau a phrentisiaeth Matthew yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ceir dau gategori o wobrau: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd y rhai yn y rownd derfynol yn cael eu rhoi ar restr fer o’r ceisiadau ac yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty St David’s, Caerdydd ar 9 Mehefin.