Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Buddsoddi mewn Prentisiaethau i Gefnogi ei Nodau o fod yn Gyngor Sero Net erbyn 2030

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio’n weithredol tuag at sicrhau dim gwastraff i safleoedd tirlenwi a’i nod yw dod yn gyngor carbon sero-net erbyn 2030. Er mwyn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i’w staff gwella arferion rheoli gwastraff y cyngor, maent wedi sefydlu rhaglenni prentisiaeth mewn cydweithrediad â Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yn 2023-24, cyfraddau ailgylchu Conwy oedd 69%, gan eu gosod yn 9fed allan o 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a bron â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70%.

Ers 2013, mae 41 o weithwyr y cyngor o’r timau casglu a gwaredu gwastraff wedi llwyddo i gwblhau Prentisiaethau mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy a Rheoli Gweithrediadau a Systemau.

Mae rhai gweithwyr wedi gwella eu sgiliau a’u gyrfaoedd o fod yn weithwyr i reolwyr trwy symud ymlaen o Brentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) i Brentisiaethau (Lefel 3) a Phrentisiaethau Uwch (Lefel 4).

Bellach mae gan y cyngor, sy’n gweithredu ffatri trosglwyddo gwastraff yn Abergele a chyfleuster ailgylchu deunyddiau ym Mochdre, bedwar aelod o staff ar raglenni prentisiaeth gyda Hyfforddiant Cambrian.

Mae Danielle Richards, rheolwr gwaredu gwastraff cynorthwyol y cyngor, yn gyn-brentis strategaeth wastraff ac yn angerddol am ddysgu seiliedig ar waith a rheoli gwastraff.

Danielle oedd prentis cyntaf y cyngor mewn rheoli gwastraff rhwng 2005-07 ac mae bellach wedi ennill cymhwyster fel rheolwr gwastraff siartredig.

Mae’n dweud bod prentisiaethau’n hanfodol os yw’r wlad am lenwi bylchau mewn sgiliau cenedlaethol yn y diwydiant rheoli gwastraff ac ailgylchu.

“Bydd wastad angen rheoli ac ailgylchu gwastraff ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio meithrin gwytnwch yn ei wasanaethau drwy sicrhau bod gennym staff medrus ac amryddawn ar y safle sydd â’r gallu i symud ymlaen,” meddai Danielle.

Rory Wooller Conwy Council

“Mae prentisiaethau’n bwysig iawn oherwydd mae’n rhoi cyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd, ac mae eu hyder yn dod ar lawer, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r gweithle.”

Canmolodd y gefnogaeth a roddwyd i brentisiaid gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. “Maen nhw’n deall y bwlch sgiliau rydyn ni’n ceisio ei lenwi a’r gwytnwch rydyn ni’n ceisio ei adeiladu o fewn ein tîm,” ychwanegodd.

Un o gyd-weithwyr Danielle sydd wedi gweithio ei ffordd i fyny o weithiwr sbwriel ac ailgylchu i swyddog addysg ailgylchu, ar ôl cwblhau prentisiaethau ar Lefelau 2 – 4, yw Rory Woller, o Lanfairfechan.

Ar ôl gweithio i’r cyngor am 12 mlynedd, mae Rory bellach yn rheoli tîm o bedwar swyddog ailgylchu cymunedol.

“Pan ymunais â’r awdurdod am y tro cyntaf, roeddwn yn benderfynol o ddatblygu gyrfa lle byddwn yn parhau i ddringo’r ysgol,” meddai. “Rwyf wedi ymrwymo i’r sector hwn nawr a bydd unrhyw gyflogaeth bosibl yn y dyfodol mewn rheoli safle neu rheoliadau wastraff.”

“Mae prentisiaeth yn dangos lefel y dysgu y gallwch ei gyflawni ac yn dangos eich bod wedi ymrwymo i wella’ch hun a’ch datblygiad proffesiynol.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

John Clay Conwy Council