Ollie Holden-Davies yn ennill Prentis Cigydd Cymreig y Flwyddyn yn 16 oed

Yn 16 oed, mae Ollie Holden-Davies wedi ennill Prentis Cigydd Cymreig y Flwyddyn 2025. Mae Ollie yn gweithio i Neil Powell Butchers, Y Gelli Gandryll, ac ar hyn o bryd mae’n cwblhau ei Brentisiaeth Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig. Ar ôl gweithio yn Neil Powell Butchers fel ‘bachgen Sadwrn’ ers pan oedd yn 14 oed, daeth Ollie yn brentis cigydd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian bum mis yn ôl.

Derbyniodd Ollie fedal aur hefyd drwy ennill marciau o dros 90% yn y rownd derfynol hynod gystadleuol. Curodd Ollie ei wrthwynebydd Kieran Thomas o Albert Rees Ltd, Marchnad Caerfyrddin, a dyfarnwyd medal aur iddo hefyd gan y beirniaid. Mae Kieran hefyd yn astudio am ei Brentisiaeth Lefel 2 mewn hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Roedd gan yr unigolion yn y rownd derfynol 30 munud i dorri carcas cig oen cyfan yn gymalau cyntefig ac yna awr a 40 munud i greu arddangosfa cynnyrch gyffrous a oedd yn arddangos eu sgiliau a’u creadigrwydd. Roedd yn rhaid labelu’r holl gynhyrchion yn glir a chynnwys cyfarwyddiadau coginio. Profwyd sgiliau cigyddiaeth y prentisiaid trwy dorri dau gynnyrch cig oen yn union yr un fath o ran ymddangosiad, maint a phwysau.

Fe’u barnwyd yn ôl eu hymddangosiad, arddangosfa cig, creadigrwydd, sgiliau, gwastraff, diogelwch bwyd, ac iechyd a diogelwch. Bydd Ollie yn ychwanegu Prenti Cigydd Cymreig y Flwyddyn 2025 at ei restr gynyddol o gyflawniadau. Enillodd gystadleuaeth torri cyw iâr CFfI Brycheiniog ac aeth ymlaen i ennill teitl Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fis Tachwedd diwethaf.

Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd Ollie; “Cefais fy synnu ond mae’n braf gwybod bod pobl yn sylwi ar fy sgiliau ac i gael eu henwi’r prentis gorau yng Nghymru ar gyfer cigyddiaeth.”

Dywedodd Arwyn Wakins, Llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru a chadeirydd gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae cigyddiaeth yn ddiwydiant sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio talent ifanc. Fe benderfynon ni gyflwyno Prentis Cigydd Cymreig y Flwyddyn i Bencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru eleni i daflu goleuni ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc gael mynediad i’r diwydiant.”