
Yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau hwn, roeddwn i eisiau tynnu sylw at rai o’r manteision o gyflogi prentis o bersbectif cyflogwr. Trwy gefnogi aelod o’r dim trwy raglen prentisiaeth, rydych yn ennill gweithlu sy’n fwy profiadol a gwybodus, sydd yn ei dro yn arwain at staff bodlon a brwdfrydig sydd yn helpu adeiladu eich busnes a chyflawni nodau.
Oeddech chi’n gwybod bod busnesau sy’n cyflogi staff o dan 25 oed sydd ar brentisiaeth wedi’u heithrio rhag talu Yswiriant Gwladol gweithwyr?
Roedd nifer o gyflogwyr sy’n gweithio gyda Hyfforddiant Cambrian yn hapus iawn i nodi eu bod wedi’u heithrio rhag talu Yswiriant Gwladol i weithwyr o dan 25 oed ac yn cydnabod y cyfle i gynnal adolygiad sgiliau, a chofrestru aelodau o’u tîm ar raglenni prentisiaeth a ariennir yn llawn. Bydd hyn yn helpu i uwchsgilio aelodau staff presennol a sicrhau bod aelodau newydd o’r tîm yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad cywir.
Er enghraifft, fel arfer byddai gweithwyr ar oddeutu £25k y flwyddyn o dan 25 oed sydd wedi cofrestru ar brentisiaeth yn arbed tua £3000 i’r busnes dros gyfnod eu prentisiaeth.
Yn gryno mae’r busnes yn arbed swm sylweddol o arian, ac mae’r dysgwr yn datblygu sgiliau a gwybodaeth – mae pawb yn ennill!
Cymhwystra
- Rhaid i’r prentis fod o dan 25 oed.
- Rhaid i’r prentis fod ar fframwaith prentisiaeth a gymeradwyir gan y llywodraeth.
- Rhaid i’r prentis ennill llai na £967 yr wythnos (£50,270 y flwyddyn)
Buddion
- Gall yr eithriad hwn arbed miloedd o bunnoedd i gyflogwr y prentis.
- Gall fod yn ffordd o helpu staff presennol i adeiladu eu gyrfaoedd.
- Gall fod yn ffordd o ddod â sgiliau newydd i’r busnes.
Mae Hyfforddiant Cambrian yn barod i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r arbedion posibl hyn trwy helpu i baru eich dysgwyr â’r rhaglenni prentisiaeth cywir. Gyda’n gilydd, gallwn archwilio llwybrau prentisiaeth wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eich tîm a chefnogi twf eich busnes.
Cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Busnes, Carys Evans: carys.evans@cambriantraining.com i gael gwybod mwy.