Mae staff yn un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru yn dilyn pregeth eu hunain trwy wella eu sgiliau a’u gwybodaeth trwy brentisiaethau i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Roedd tri o weithwyr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, sydd â swyddfeydd ledled Cymru, a’i chwaer-gwmni, Trailhead Fine Foods, ymhlith bron 100 o brentisiaid a gydnabuwyd mewn seremoni raddio prentisiaeth.
Cynhaliodd y cwmni a’i isgontractwyr y seremoni chwemisol ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, lle roeddent yn cydnabod taith ddysgu graddedigion o ystod eang o ddiwydiannau.
Graddiodd Cai Watkins, Rheolwr Contractau dros dro y cwmni gyda Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes, Catherine Isaac, Swyddog Cyllid a Goruchwyliwr Blaen Tŷ, gyda Phrentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch, a graddiodd Toni Donovan, Cynorthwy-ydd Cynhyrchu, gyda Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes.
Hefyd, graddiodd pedwar cyn-weithiwr a fu’n gweithio i Chartists 1770 yn y Trewythen, Llanidloes, a gaewyd yn ddiweddar, – Melanie Canning, Lucy Evans, ac Abbie Howes – gyda Phrentisiaeth mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, a graddiodd Lesia Hudzovska gyda Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Lletygarwch.
Mae Cai, 21, a enillodd Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes yn flaenorol, bellach yn ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau.
Ar ôl ymuno â’r cwmni yn syth o’r ysgol dair blynedd yn ôl, meddai; “Mae’r prentisiaethau wedi bod yn help mawr, gan roi’r sgiliau a’r hyder i mi wneud fy swydd.”
Dywedodd Catherine: ”Roeddwn i’n falch iawn o wneud y Prentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch ac roedd cefnogaeth fy Swyddog Hyfforddi, Felicity Perris, yn wych. Mae prentisiaeth yn ffordd dda o feincnodi y sgiliau sydd gennych, ac rwy’n awyddus i symud ymlaen.”
Dywedodd Toni, 24, sydd wedi gweithio i Trailhead Fine Foods yn y Trallwng am dair blynedd, ei bod wedi neidio ar y cyfle i wneud Prentisiaeth Sylfaen.
“Roedd yn gyfle gwych ac rwyf wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau o ganlyniad i’r cymhwyster,” meddai. “Hoffwn symud ymlaen i Lefel 3 yn y dyfodol i wella fy sgiliau a’m gwybodaeth.”
Roedd y seremoni raddio yn dilyn adolygiad cadarnhaol o Gwmni Hyfforddiant Cambrian gan Estyn, lle amlygwyd ei gyfraniad i’r sector lletygarwch yng Nghymru fel enghraifft o arfer da. Mae’r cwmni’n darparu prentisiaethau i Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Rheolwr Gyfarwyddwr y gwmni, Faith O’Brien, gofleidio ei chydweithwyr. “Roeddem wrth ein bodd ein bod yn gallu cydnabod a dathlu cyflawniadau ein haelodau staff sy’n graddio,” meddai.
“Fel busnes, rydym yn annog ein staff i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus i ddatblygu eu gyrfaoedd a chyrraedd eu potensial. Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r hyfforddiant a’r gwasanaethau cymorth anodd i’n prentisiaid a’u cyflogwyr ledled Cymru
“Mae prentisiaethau yn agor drysau i bawb, gan alluogi unigolion i gael mynediad i’w gyrfaoedd dymunol a chefnogi busnesau i adeiladu gweithlu medrus sydd eu hangen arnynt.”
Capsiwn Llun:
Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Faith O’Brien gydag aelodau staff sy’n graddio (o’r chwith) Toni Donovan, Catherine Isaac a Cai Watkins.