Mae Angela Maguire-Lewis yn uwch reolwr profiadol gyda gyrfa amrywiol mewn dysgu seiliedig ar waith sy’n ymestyn dros 28 mlynedd, gyda hanes profedig mewn rolau uwch a chynghorol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fel Cyfarwyddwr Llywodraethu, mae’n chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithredu i’r safon uchaf o ran tegwch a chywirdeb.
Fel uwch arweinydd, mae wedi datblygu cyfeiriad a gweledigaeth strategol lwyddiannus, gan sicrhau bod y safonau uchaf o ran cyflawni yn sail i dwf ac ehangu dysgu seiliedig ar waith. Roedd hi’n Aelod Bwrdd gwreiddiol ac yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn Cymwysterau Cymru ac mae hi bellach yn aelod o Fwrdd NTFW a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd yn City and Guilds. Yn flaenorol, mae hi wedi bod yn aelod o nifer o rwydweithiau darparwyr gan gynnwys Bwrdd Ansawdd Cymdeithas Darparwyr a Chyflogwyr yn Lloegr. Yn y rolau hyn, mae’n mynychu cyfarfodydd gyda swyddogion y llywodraeth a gweinidogion i ddylanwadu ar bolisïau sgiliau ac i wella’r ddarpariaeth er budd dysgwyr a phartneriaid cyflogwyr er mwyn dylanwadu ar raglenni sgiliau yn y dyfodol.
Mae Angela wedi darparu uwch-arweinyddiaeth a chefnogaeth ymgynghorol i ystod o dimau rheoli a sefydliadau, er mwyn sicrhau bod strategaethau gwella ansawdd ac amcanion cwmnïau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus. Wrth ragori ar dargedau y cytunwyd arnynt flwyddyn ar ôl blwyddyn drwy reoli rhaglenni sgiliau effeithiol, effeithlon ac o ansawdd uchel. Mae ganddi hanes llwyddiannus o ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n cyrraedd anghenion dysgwyr a’u cyflogwyr yn y dyfodol.
Mae profiad eang Angela o weithio’n strategol gyda chyrff sector, swyddogion y llywodraeth a chyflogwyr – mawr a bach – wedi bod yn ganolog i ddatblygu rhaglenni sgiliau sy’n diwallu anghenion y diwydiant. Trwy gydol ei gyrfa helaeth, mae Angela yn dangos pwyslais ac ymrwymiad cryf i gynyddu cyfleoedd prentisiaeth a sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel gyda thryloywder a chydraddoldeb.