Prentisiaeth Gweithgynhyrchu – CDT Sidoli (Y Trallwng)
CDT Sidoli Ltd, Henfaes Lane, Y Trallwng, Powys, SY21 7BE
Dyletswyddau:
- Gweithio ar y llinellau gweithgynhyrchu ar draws y gwaith gweithgynhyrchu sy’n cynhyrchu pwdinau o ansawdd uchel.
- Dysgu tasgau a sgiliau ychwanegol ym mhob maes o’r gwaith gweithgynhyrchu.
- Helpu i gyflawni cynlluniau cynhyrchu dyddiol gan sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni.
- Gweithredu a rhedeg peiriannau yn ardal y ffwrn i gynhyrchu cymysgeddau, gan ddilyn ryseitiau a manyleb cynnyrch, a sicrhau bod yr holl brosesau cywir yn cael eu dilyn.
- Cydymffurfio â pholisi a gweithdrefnau ansawdd y cwmni, yn benodol gwiriadau iechyd a diogelwch.
- Dilyn y pwyntiau rheoli critigol perthnasol yn y broses, er enghraifft blawd hidlo.
- Deall pwysigrwydd rheoli alergenau.
- Gweithredu a rhedeg ffyrnau, a gallu perfformio gwaith cynnal a chadw cyffredinol (glanhau ac ati).
- Deall sut i addasu amseroedd a thymheredd pobi yn seiliedig ar wahanol gynhyrchion a gwahaniaethau tymhorol ar gynhyrchion.
- Cwblhau ac addurno cacennau â llaw i fanyleb cynnyrch.
Priodoleddau personol delfrydol:
- Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r gallu i weithio fel rhan o dîm yn ogystal â gweithio ar eich liwt eich hunain.
- Rhywun sy’n hyblyg ac yn gallu gweithio ar draws ystod o wahanol feysydd cynhyrchu gan ennill sgiliau o ansawdd da trwy gydol y gweithgaredd gweithgynhyrchu.
- Mae sgiliau cyfathrebu da yn bwysig a’r gallu i gyfathrebu ar bob lefel, yn ogystal â bod â lefel sylfaenol dda o lythrennedd a rhifedd.
- Rydym yn chwilio am bobl sydd ag uchelgais ac eisiau dysgu am bob adran gweithgynhyrchu a symud ymalen yn y busnes.
- Pobl sydd eisoes â rhai o’r sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt ac sydd am allu symud ymlaen o fewn gweithrediad gweithgynhyrchu sefydledig.
Cymhwyster(au) Angenrheidiol:
TGAU Lefel C mewn Saesneg a Mathemateg.
Bydd unrhyw brofiad blaenorol o bobi neu weithgynhyrchu yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.
Anghenion y Gymraeg:
Sgiliau llafar Cymraeg: Na
Sgiliau ysgrifenedig Cymraeg: Na
Cwrs prentisiaeth:
Medrusrwydd mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod Lefel 2
Tal
Cyfraddau prentisiaethau.
Oriau:
31-40 awr yr wythnos
Trefniadau cyfweliad:
Cyfweliad dros y ffôn a chyfweliad wyneb i wyneb.
Gwneud Cais:
Bydd cyfweliad dau gam, bydd y cam cyntaf naill ai’n wyneb yn wyneb neu ar-lein. Bydd yr ail gam ar y safle ac yn cynnwys rhai agweddau ymarferol.
I wneud cais:
Anfonwch eich CV i –
sianlevans@sidoli.co.uk / bdavies@sidoli.co.uk
Job Category | Sidoli |