Mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o gynlluniau olyniaeth yng nghwmni prosesu cig arobryn Gorllewin Cymru, Celtica Foods, sydd â gweithlu o 58.
Mae’r busnes sy’n seiliedig yn Cross Hands, adran cigyddiaeth arlwyo o gyfanwerthwr annibynnol Cymreig Castell Howell Foods, yn cyflenwi cwsmeriaid yn y sector gwasanaethau bwyd a lletygarwch.
Mae’r cwmni yn gweithio’n agos gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian er mwyn cynnig Prentisiaethau mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Cig a Dofednod, Rheolaeth Bwyd a Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd o lefelau 2 i 4 i roi cyflogwyr gwybodaeth ddyfnach o’r sector cig.
Mae Celtica Foods wedi hyfforddi 48 prentis dros nifer o flynyddoedd. Gan gydnabod bod pobl yn dyngedfennol i lwyddiant a thwf y busnes, mae’r cwmni wedi mabwysiadu newid a chynlluniau olyniaeth sy’n ffocysu ar recriwtio gweithwyr ifanc i leihau’r oedran cyfartalog o’r gweithlu.
Ychwanegodd rheolwr cyffredinol, Matthew Evans: “Byddwn yn ffocysu llawer mwy ar brentisiaethau yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni weithio tuag at leihau’r oed cyfartalog o’r gweithlu. Mae derbyn cefnogaeth ar gyfer prentisiaethau cigyddiaeth gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn hynod o bwysig.”
Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.