Enillodd dwy fenter gymdeithasol dair gwobr yr un yn seremoni wobrwyo flynyddol darparwr prentisiaethau blaenllaw.
Roedd gan Bryson Recycling (Cymru), Bae Colwyn ac Antur Waunfawr, Caernarfon, dri rheswm yr un dros ddathlu yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Bryson Recycling, y busnes ailgylchu mwyaf gan fenter gymdeithasol yn y DU, a enwyd yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn ac enillodd ei weithwyr, Andrew Bennett a Gerwyn Llyr Williams, wobrau Prentis Eithriadol y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn, yn y drefn honno.
Antur Waunfawr a enillodd wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, a llwyddodd swyddog beiciau 24 oed y cwmni, Jack Williams, i gyflawni’r dwbl trwy ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn a gwobr Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg.
Yr enillwyr eraill oedd Llyfrgell Gladstone, Penarlâg a enillodd Wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yw Bwyty a Whitbread plc a enillodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod i ddathlu camp cyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru, sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau seiliedig ar waith a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
Llongyfarchwyd yr enillwyr a phawb oedd yn y rownd derfynol gan Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Dydi’r llwybr i ddod yn weithiwr proffesiynol ddim yn un hawdd ac mae’n cymryd llawer iawn o ddycnwch, dyfalbarhad ac awydd i ddysgu,” meddai. “Dangosodd ein prentisiaid fod y rhinweddau hyn a mwy ganddynt.
“Maen nhw wedi wynebu heriau dysgu crefft a, thrwy waith caled ac ymdrech, maen nhw wedi dod yn fedrus ac yn wybodus yn eu dewis faes.
“Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad yn ein dyfodol, gan osod sylfaen ar gyfer economi gref a bywiog. Heno, rydyn ni’n dathlu nid yn unig lwyddiant ein prentisiaid, ond hefyd ymroddiad a chefnogaeth eu mentoriaid, eu hyfforddwyr a’u cyflogwyr.”
Ac meddai wrth y prentisiaid: “Wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfaoedd, cofiwch nad yw dysgu byth yn dod i ben. Rwy’n eich annog i ddal ati i wthio’ch hun, i chwilio am gyfleoedd newydd ac i ymdrechu i ragori.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).