Rydym wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr newydd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.
Bydd Faith O’Brien yn olynu Arwyn Watkins OBE, sydd bellach yn Gadeirydd Gweithredol Grŵp CTC; gyda ffocws mwy strategol ar Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Trailhead Fine Foods, Chartists 1770 a Mid Wales Fayres.
Bydd y ddau yn parhau fel aelodau bwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), y sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gwmni sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n arbenigo mewn darparu prentisiaethau ar draws ystod o ddiwydiannau ledled Cymru. Busnes craidd Hyfforddiant Cambrian wy’r diwydiannau bwyd, arlwyo a lletygarwch.
Gyda swyddfeydd rhanbarthol yn Llanelli, Caergybi, Bae Colwyn a Llanfair ym Muallt, mae gan y cwmni weithlu o bron i 80 o weithwyr ac mae wedi gweld twf mawr yn y pum mlynedd diwethaf; pan ymunodd Faith â’r busnes.
Mae comisiwn prentisiaethau’r cwmni gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu o £4.6 miliwn i £8.3 miliwn.
Wedi ei chyffroi gan ei dyrchafiad, dywedodd Faith: “Mae Arwyn a minnau wedi gweithio gyda’n gilydd ers blynyddoedd lawer a, phan ymunais â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, wnes i erioed freuddwydio y byddai’r cwmni wedi tyfu ac arallgyfeirio mor gyflym. Mae hyn i gyd gyda diolch i’n gweithwyr a’n partneriaid cyflenwi.
“Yn fy rôl newydd byddaf yn arwain ar bob agwedd ar ddysgu seiliedig ar waith yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian ac yn adrodd yn uniongyrchol i Arwyn.
“Mae gan ddysgu seiliedig ar waith rai cyfnodau anodd o’n blaenau gyda chostau byw a ffactorau eraill yn effeithio’n uniongyrchol ar staff, cyflogwyr a’r economi leol. Fy ffocws yw sicrhau ein bod yn cynnal ac yn tyfu ein hansawdd, gan ddarparu’r un lefel a maint o gefnogaeth waeth beth fo heriau’r dyfodol.
“Mae ein staff a’n partneriaid wedi galluogi’r cwmni i fod yn ariannol gadarn gyda chomisiwn cryf wrth symud ymlaen. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn cadw ein gwerth ac yn gwella ein canlyniadau ansawdd, tra hefyd yn ystyried cyfleoedd busnes newydd.”
Ychwanegodd Arwyn: “Oherwydd lefel y twf a’r arallgyfeirio a gyflawnwyd gan y cwmni, mae angen rheolwr gyfarwyddwr arnom sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflwyno dysgu seiliedig ar waith o safon.
“Mae mor bwysig ein bod ni’n cael hynny’n iawn a pheidio â chael ein tynnu gan ffactorau allanol. Byddaf yn gyfrifol am gyfeiriad strategol y grŵp cyfan a sicrhau bod y cynllun strategol yn cael ei gyflawni gan fy nghyfarwyddwyr.”
Fel llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, bydd Arwyn yn arwain trefniadau y Worldchefs Congress & Expo 2026 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru).
Yr wythnos diwethaf, penodwyd Arwyn hefyd yn Llysgennad Cynhadledd Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n aelod o Gyngor Busnes Cymru ac Ymddiriedolaeth Bwyd Prydain.
Mae gan Faith fwy na 25 mlynedd o brofiad arwain o fewn y sector gyda pherthynas gwaith sefydledig cryf yn darparu contractau dysgu seiliedig ar waith a chyflogadwyedd ledled y DU.
Fel cwmni rydym yn gyffrous am y datblygiadau llwyddiannus y mae Faith wedi’u gwneud ac yn parhau i’w gwneud i Hyfforddiant Cambrian a dymunwn y gorau iddi yn ei rôl newydd.