Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi cael ein henwi’n Ddarparwr Prentisiaethau Seiliedig ar Waith Gorau yng Nghymru gan Corporate Vision Magazine.
“Mae ein gwobrau bob amser wedi bod yn canolbwyntio ar gydnabod a gwobrwyo penderfyniad, uchelgais a rhagoriaeth addysgwyr gorau’r byd – o’r darparwyr addysg allweddol, i arbenigwyr hyfforddi ac arloeswyr technoleg addysgol,” meddai Corporate Vision.
Dywed y cylchgrawn fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi “creu enw anhygoel trwy ei raglenni prentisiaeth seiliedig ar waith”.
Mae’r cwmni’n cael ei ganmol am ei dysgu digidol aroloesol, cefnogaeth i ddysgwyr, partneriaethau gyda chyflogwyr ledled Cymru ac am weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu cymwysterau a chymunedau.
“Ers dros 25 mlynedd, mae Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi bod yn darparu hyfforddiant arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau diwydiant, gan ei ddiffinio fel ffigwr blaenllaw o fewn ei faes prentisiaethau yng Nghymru,” meddai Corporate Vision.
“Mae ei swyddogion hyfforddi, sy’n ymroddedig ac yn frwdfrydig, yn weithwyr proffesiynol o fewn llu o sectorau amrywiol, gan gynnwys – ond heb fod yn gyfyngedig i – lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, rheoli adnoddau cynaliadwy, a busnes.
“Mae chwalu’r mythau a’r camsyniadau ynghylch prentisiaethau yn dod yn naturiol gyda’r dasg hon, ac mae’n rhywbeth y mae Hyfforddiant Cambrian yn angerddol iawn amdano. Mae’r cwmni am daflu goleuni ar yr amrywiaeth o bethau cadarnhaol y mae hyfforddiant seiliedig ar waith yn eu darparu i ddysgwyr a busnesau.”
Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, ein rheolwr gyfarwyddwr: “Rwyf wrth fy modd bod y cwmni a’i staff wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn darparu prentisiaethau ledled Cymru, yn enwedig ar ôl yr heriau a wynebwyd gennym i gyd yn ystod y pandemig. Mae’r wobr hon hefyd yn gymeradwyaeth i’r holl waith a wnawn i helpu prentisiaid a chyflogwyr i gyflawni eu nodau priodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni prentisiaethau arobryn cysylltwch â ni heddiw.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.