Mae’n bleser gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian gyhoeddi ein bod bellach yn Sefydliad sydd yn dangos ymwybyddiaeth tuag at Awtistiaeth, fel y’i dyfarnwyd gan Awtistiaeth Cymru! Mae’r wobr genedlaethol yn cydnabod busnesau a sefydliadau sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant a chamau eraill i sicrhau bod eu staff yn deall anghenion pobl awtistig a sut i wella ymwybyddiaeth ar draws y busnes.
“Rydyn ni mor gyffrous ein bod yn gwella ymwybyddiaeth ein staff o anghenion y rhai ag awtistiaeth, wrth i ni weithio gyda phrentisiaid a busnesau ledled Cymru” meddai Anne Jones, Cyfarwyddwr Ansawdd a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.
“… Gan olygu bod ein tîm cyflwyno yn gallu deall unigolion ag awtistiaeth a sut i deilwra eu hanghenion dysgu er mwyn cynyddu eu profiad hyfforddi prentisiaeth i’r eithaf”
“Bydd gallu cymryd rhan yn yr hyfforddiant gan Awtistiaeth Cymru, a ddatblygwyd gan y rhai sydd â phrofiad personol, yn ein galluogi i deilwra a chreu cyfleoedd dysgu a phrentisiaeth yn fwy hygyrch i bawb.”
Mae dros 80% o staff Hyfforddiant Cambrian bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant, gan eu helpu i ddeall sut y gallant addasu a theilwra hyfforddiant a dysgu prentisiaeth i’r rheini ag awtistiaeth. Mae’r hyfforddiant, sy’n rhan o waith ‘Autism Wales’ yn diweddaru adnoddau yn rheolaidd, yn adlewyrchu’r hyn yr hoffai pobl awtistig i bobl neurotypical ei ddeall am awtistiaeth, ac mae’n cynnwys ffilm hyfforddi sy’n cynnwys 3 o bobl yn archwilio beth mae awtistiaeth yn ei olygu iddyn nhw.
Yn ogystal, bydd Hyfforddiant Cambrian yn edrych ar integreiddio arferion da, adnoddau a defnyddio’r wybodaeth newydd hon wrth ddarparu eu hyfforddiant prentisiaeth yn y gwaith ochr yn ochr ag Awtistiaeth Cymru.
Meddai Anne, “Rydyn ni wrth ein bodd yn ymgysylltu â sefydliadau fel Awtistiaeth Cymru sy’n helpu i wneud dysgu mor hygyrch â phosib. Megis dechrau yw’r wobr hon, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw ymhellach i wneud yr hyn a allwn fel darparwr hyfforddiant i ddod â chyfleoedd dysgu yn y gwaith i bawb. ”