Roedd cael gwneud ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Iestyn Morgan sydd wedi cael ei holl addysg a hyfforddiant hyd yma yn ei iaith gyntaf.
Mae Iestyn, 25, rheolwr y bar yng ngwesty llwyddiannus yr Harbwrfeistr yn Aberaeron, wedi cwblhau ei Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian ac mae’n ystyried symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch.
Oherwydd ei frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau, cafodd ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
Ar ôl gadael yr ysgol â dwy Lefel A, BTEC mewn Technoleg Cerddoriaeth a Bagloriaeth Cymru, treuliodd Iestyn flwyddyn gap yn gweithio yn yr Harbwrfeistr cyn mynd i wneud Gradd mewn Technoleg Cerddoriaeth.
Oherwydd ei gariad at Geredigion, daeth yn ôl i Aberaeron a chael ei swydd lawn-amser bresennol. Yn ogystal â’i waith, mae’n chwarae cerddoriaeth bop acwstig yn Gymraeg gyda Gwenno, ei chwaer, ac mae’n chwarae mewn band gyda ffrindiau o’r brifysgol.
Cyn cyfnod clo Covid-19, llwyddodd Iestyn i gyfuno’i waith a’i ganu pan gafodd ef a Gwenno gyfle i gefnogi Bryn Fôn mewn perfformiad yn yr Harbwrfeistr.
Dywed Iestyn ei fod yn hapus i symud ymlaen â’i yrfa ym myd lletygarwch yn yr Harbwrfeistr ond bod ganddo un llygad ar gyfleoedd i recordio, cynhyrchu a gwneud gwaith theatr er mwyn defnyddio’i sgiliau ym myd technoleg cerddoriaeth.
Roedd yn canmol y gefnogaeth a gafodd gan y swyddog hyfforddiant Hazel Thomas yn Hyfforddiant Cambrian a enwebodd ef i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.
“Mae Iestyn yn Llysgennad ardderchog dros y Gymraeg a gall annog dysgwyr eraill sy’n awyddus i wneud prentisiaeth yn eu mamiaith,” meddai hi. “Gyda’r platfform dysgu a ddefnyddiwn ni yn Hyfforddiant Cambrian, gall y dysgwyr gyfieithu eu gwaith i’w dewis iaith wrth gyffwrdd botwm, diolch i’r ddyfais gyfieithu newydd a ychwanegwyd at y Cynorthwyydd Dysgu.
“Er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i ni roi cyfle i brentisiaid ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a gall y sgìl honno eu helpu i gael gwaith.”
Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.
Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”
Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch naill ai â Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTfW, ar 07425 621709, neu â Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.