Mae’r cigydd dawnus o Gymru, Matthew Edwards eisoes wedi profi ei fod ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru a chael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd.
Mae Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, yn hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi. Enillodd ei le yn y tîm dau ddyn ar ôl dod nesaf i’r brig yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd y llynedd.
Enillodd ei daith ddysgu le iddo yn rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) mawreddog eleni yng Nghymru. Mae’n un o’r 6 yn y rownd derfynol a allai fod yn Ddysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ddangosol ar 4 Mehefin, sef Diwrnod VQ, yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw.
Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ.
Mae Matthew’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen cyn hynny.
Dechreuodd ei yrfa trwy weithio ar Sadyrnau yn y Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug ac aeth ymlaen i weithio i Ddysgwr VQ y Flwyddyn Cymru’r llynedd, sef Tomi Jones, o Jones’ Butchers, Llangollen.
Ers ymuno â Steve Vaughan, enillodd y gystadleuaeth Gwneuthurwr Selsig Ifanc yn Sioe ar Daith Ranbarthol Bpex y llynedd a bydd yn cystadlu yng ngornest Pencampwr y Pencampwyr yn y digwyddiad yn Newark ym mis Hydref eleni.
“Ers dechrau fy hyfforddiant, rydw i wedi mynd o fod nesaf at y brig i ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ac wedi dod nesaf at y brig yng ngornest y Prif Gigydd Ifanc, sy’n dangos y cynnydd rydw i wedi’i wneud,” meddai Matthew. “Rydw i wedi datblygu fy sgiliau trwy ddysgu yn y swydd a thrwy gael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.”
Dywedodd Trevor Davies, swyddog hyfforddi yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae cyflawniadau Matthew mewn cystadlaethau a gydnabyddir gan y diwydiant yn wir adlewyrchiad o’i ddawn ac mae wedi gosod meincnod uchel i bobl eraill ei ddilyn.”
Ychwanegodd Mr Vaughan ei ganmoliaeth ef: “Mae Matthew’n dangos uchelgais a phenderfyniad sy’n amlwg yn ei ffordd gadarnhaol o droi at ei gymwysterau, ei awch i gystadlu a’i frwdfrydedd i ddysgu.”
Mae’r bobl eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cynnwys Ashleigh Zeta Jones a’r cogydd Rhys Sinfield a enwebwyd gan Goleg Pen-y-bont, Ebbi Ferguson a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli, Corey Nixon a enwebwyd gan Goleg G?yr Abertawe a pherchennog meithrinfa yn San Clêr Emma Thomas a enwebwyd gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe.
Bydd tri chwmni, sef cartref gofal Hengoed Court, Abertawe, y darparwr gofal yn y cartref Trusting Hands, Glyn Ebwy a’r Village Bakery, Wrecsam – yn cystadlu am Wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn.
Mae Diwrnod VQ yn cefnogi’r uchelgais bod cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig, yn cyflawni’r un parch â llwybrau addysgol eraill.
Anogir darparwyr dysgu ledled Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ a chysylltu gyda dysgwyr o bob oedran. Cydlynir Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac fe’u hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dymunodd Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, Ken Skates, lwyddiant i’r naw yn y rownd derfynol ar 4 Mehefin. “Cymwysterau Galwedigaethol yw’r safon euraidd mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau y cânt eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd o ran eu gwerth i ddysgwyr ac economi Cymru.
“Mae gan Gymru wir gyfoeth o bobl ddawnus ac ymroddedig sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau galwedigaethol ac mae Diwrnod VQ yn gyfle i ni ddathlu eu cyflawniadau. Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at y proffesiwn a ddewiswyd gennych.”