Picture captions: Stefan Rice gyda’i fedal aur ar ôl ennill rownd derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK.
Ymateb Stefan Rice, y cigydd o Stafford oedd “Rydw i ar ben fy nigon ac yn gegrwth” ar ôl iddo ennill yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK ar y penwythnos.
Llwyddodd Stefan, sy’n 35 oed, o Cannock ac yn gweithio i A. Hindle and Son, Stafford, i achub y blaen ar y pum cigydd cystadleuol arall o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gipio’r teitl mawreddog yn WorldSkills UK LIVE, a gynhaliwyd yn yr NEC Birmingham.
Cwblhaodd y cystadleuwyr terfynol bum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw, a brofodd eu sgiliau i’r eithaf. Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda thasg blwch dirgel heriol a daeth i ben gyda’r dasg anoddaf hyd yma.
Cafodd y cigyddion ochr uchaf a chloren o eidion a chawsant awr i dynnu’r esgyrn a’i drimio, un awr i dorri’r cig ar hyd y cyhyr ac un awr i wneud ac arddangos y cynnyrch.
“Nid oeddwn yn credu mai fy enw i fyddai’n cael ei alw, ond roedd yn hollol wych ac yn emosiynol pan gyhoeddon nhw mai fi oedd yr enillydd,” meddai Stefan. “Rydw i ar ben fy nigon ac yn gegrwth o ennill.”
“Rydw i wedi cael ymateb gwych gan fy nghwsmeriaid sydd wedi fy llongyfarch ac wedi rhoi cardiau i mi. Rydw i’n dal i binsio fy hun.
“Roedd hi’n gystadleuaeth anodd iawn oherwydd roedd tipyn o dalent yn y rownd derfynol a llawer o gynhyrchion da. Roedd y cystadleuwyr terfynol yn grŵp hyfryd o bobl a byddaf yn hapus i gadw mewn cysylltiad â nhw er mwyn rhannu syniadau a ryseitiau.”
Enillwyd yr ail safle a medal arian gan Liam Lewis, 31 oed, o Winsford, sy’n gweithio i The Hollies Farm Shop, Little Budworth, ger Tarporley ac mae’n aelod o Dîm Cigyddiaeth Grefftus Cymru.
Yn drydydd oedd Jason Edwards, 25 oed o The Hollies Farm Shop, Lower Stretton, ger Warrington.
Ymhlith y lleill yn y rownd derfynol oedd Craig Holly, 30 oed o Bont-y-pŵl, sy’n gweithio i Chris Hayman Butchers, Maesycymer, Hengoed; Elizabeth James, 17 oed, sy’n gweithio i fusnes ei theulu, W. James Butchers, Stoke-on-Trent a Codie-Jo Carr, 17 oed, sy’n gweithio i Fred Elliott Family Butchers, Banbridge, Gogledd Iwerddon.
Mae Jason ac Elizabeth yn brentisiaid cigyddiaeth wedi’u hyfforddi gan Goleg Reasehaeth, Nantwich.
Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn yn y Trallwng, Hyfforddiant Cambrian ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Y noddwyr yw’r Sefydliad Cig, y National Craft Butchers, y Worshipful Company of Butchers a Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales.
Dywedodd Chris Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian iddi fod yn rownd derfynol hynod agos a medrus gydag ychydig iawn i ddewis rhwng y cigyddion.
“Roedd gan Stefan ychydig mwy o reolaeth ar hyd y gystadleuaeth na’r cystadleuwyr eraill,” ychwanegodd. “Roedd yn gystadleuaeth gref, agos lle’r oedd manwl gywirdeb a chysondeb yn cyfrif.
“Roedd hi’n wych gweld dwy gigyddes ddawnus ac ifanc yn cystadlu i lefel mor uchel ac rwy’n gobeithio y byddant yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf oherwydd dangoson nhw gryn dipyn o addewid. Gobeithio y bydd eu cyfranogiad yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant ac yn annog merched eraill i ddilyn eu camre a chystadlu ar y lefel uchaf yn y DU.”
Ar ran Hyfforddiant Cambrian, diolchodd i’r noddwyr am eu cefnogaeth gan na fyddai’r gystadleuaeth yn bosibl hebddynt.
Canolbwyntiodd y gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Profwyd y cigyddion am eu dawn cyffredinol, arloesedd, creadigedd, cyflwyniad, etheg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o garcas a phrif ddefnydd, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.
Y beirniaid oedd Keith Fisher o’r Sefydliad Cig, Roger Kelsey o’r National Craft Butchers a Viv Harvey, ymgynghorydd annibynnol.
Er mwyn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y flwyddyn nesaf, rhaid i gigyddion feddu ar sgiliau cyllell a chigyddiaeth sylfaenol ac eilaidd da, gan gynnwys cigyddiaeth ar hyd y cyhyr, gydag o leiaf chwe mis o brofiad ymarferol, sgiliau clymu da, profiad o wneud selsig a’r gallu i weithio dan bwysau o flaen cynulleidfa.
Gall cigyddion sy’n dymuno cystadlu i fod y cigydd gorau yn y DU 2020 gofrestru yn https://www.worldskillsuk.org/champions/national-skills-competitions/express-your-interest-in-worldskills-uk-competitions-2020
Roedd cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau a gafodd eu cynnwys yn WorldSkills UK LIVE. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893, e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.