Dewiswyd dau gigydd ifanc o Gymru i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd.
Mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Pen-y-ffordd, ger Caer, wedi dechrau hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi, tra bydd Peter Rushforth, sy’n 18 oed o Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug, yn dilyn yn ei gamau trwy ymuno â thîm Prydain Fawr y flwyddyn nesaf.
Enillodd Edwards, pencampwr presennol Cigydd Ifanc Cymru, ei le yn y tîm ar ôl dod yn agos at y brig yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd yn yr NEC, Birmingham.
Mae Rushforth bellach wedi gwneud cystal ag Edwards trwy ddod yn agos at y brig yn erbyn pedwar cigydd llawer mwy profiadol yn y gystadleuaeth eleni ac wedi ennill ei le yn nhîm 2015. Cafodd ei ganmol yn uchel dair gwaith yn chwe chategori’r gystadleuaeth am ei bastai helgig, oren a llugaeron parod i’w fwyta gyda rhost stwffin cnau castan a’i ddewis o gynhyrchion barbeciw.
Mae Edwards a Rushforth yn fyfyrwyr gyda’r Cwmni Hyfforddiant Cambrian arobryn yn y Trallwng. Mae Edwards bellach yn gweithio tuag at brentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod tra dechreuodd Rushforth brentisiaeth sylfaen mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod fis Medi diwethaf.
Dechreuodd y ddau gigydd ifanc eu gyrfaoedd gyda swyddi dydd Sadwrn gyda Clive Swan yn Swans Farm Shop a bu’r ddau’n gweithio gyda’i gilydd am amser byr.
“Mae Peter yn gwneud yn wirioneddol dda ac roeddwn i wrth fy modd pan glywais iddo ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc ac iddo gael ei ddewis ar gyfer tîm Prydain y flwyddyn nesaf, meddai Edwards.
Mae’n mynychu hyfforddiant unwaith y mis yn Leeds wrth baratoi am y gystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd ac mae’n cydnabod y bydd angen iddo ef a’r aelod arall o’r tîm, Ryan Healey, gyflawni safon uchel iawn i fod yn llwyddiannus yn y Swistir.
“Mae’n deimlad eithaf llethol i gael eich dewis ar gyfer y tîm o blith holl gigyddion ifanc Prydain Fawr,” meddai. “Ers dechrau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, rydw i wedi symud lan o fod yn agos at y brig i ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ac wedi dod yn agos at y brig yn y gystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc, sy’n dangos y cynnydd rydw i wedi’i wneud. Rwy’n ddiolchgar i’r cwmni am roi’r cyfle i mi gystadlu.”
Ers ymuno â Steve Vaughan, mae wedi ennill y gystadleuaeth Gwneuthurwr Selsig Ifanc yn Sioe ar Daith Ranbarthol Bpex y llynedd a bydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth pencampwr y pencampwyr yn y digwyddiad yn Newark ym mis Hydref eleni.
Dywedodd Rushforth iddo gael ei “synnu” gan ei lwyddiant yn y gystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc ac oherwydd iddo gael ei ddewis i dîm Prydain. “Roedd yna gystadleuaeth chwyrn oherwydd roedd mwyafrif y cigyddion gryn dipyn yn h?n na mi ac o weithrediadau llawer mwy”, esboniodd.
“Teimlais fel yr un gwannaf fel cigydd ifanc o siop fach yng Ngogledd Cymru, ond rwy’n caru cystadlaethau oherwydd gallwch chi wir ddangos eich sgiliau a’ch angerdd wrth gyflwyno cig.”
Ar ôl cyflawni 10 TGAU a thair Safon Uwch, dewisodd brentisiaeth yn hytrach na’r Brifysgol. “Rydw i’n bendant fy marn fod y llwybr cigyddiaeth yn cynnig gyrfa dda oherwydd mae llawer mwy i’r fasnach na sefyll y tu ôl i gownter yn gwerthu cig bum niwrnod yr wythnos,” meddai.
“Mae’n well gennyf ddysgu crefft a datblygu sgiliau ymarferol yn hytrach na chael gradd yn y brifysgol. Mae’r gefnogaeth rwy’n ei chael gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn wych ac rwy’n gobeithio symud ymlaen i brentisiaeth cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd Chris Jones, pennaeth cwricwlwm Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar gyfer cynhyrchu bwyd, ei bod hi’n “wych” fod dau o ddysgwyr y cwmni wedi’u dewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn dwy flynedd olynol.
“Er mwyn cyflawni’r lefel hon o lwyddiant, rhaid i ddysgwyr feddu ar dalent a dawn naturiol ynghyd â chael cefnogaeth eu cyflogwr i’w galluogi i gael amser i ymarfer”, ychwanegodd. “Mae’n gyflawniad gwych gan y ddau gigydd ifanc.”
Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru: “Mae mor bwysig i ni gydnabod lefel yr hyfforddiant y mae ei hangen i ddod yn gigydd safon uchel. Mae hon yn grefft hynod fedrus ac mae’n cymryd llawer o waith caled ac ymroddiad i fod y gorau.
“Mae Matthew a Peter wedi dangos gallu eithriadol ar gyfer eu proffesiwn ac wedi dangos yn union beth y gellir ei gyflawni trwy brentisiaeth. Rydw i wrth fy modd eu bod yn cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr ar y llwyfan rhyngwladol a dymunaf y lwc gorau posibl iddynt ar gyfer y gystadleuaeth.”
Cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwraig Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian i gael rhagor o wybodaeth ar Ffôn: 01938 555893 e-bost:katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818