Darparwr Hyfforddiant yn ennill contract Grŵp Compass y DU ac Iwerddon yng Nghymru

Mae darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau wedi ennill contract mawr i ddarparu prentisiaethau i weithlu Cymreig cwmni gwasanaeth bwyd mwyaf y DU.

Yn dilyn proses ddethol fanwl, mae Grŵp Compass y DU ac Iwerddon wedi penodi Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel ei ddarparwr hyfforddiant o ddewis yng Nghymru.

Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn, ac mae’n darparu prentisiaethau i newydd-ddyfodiaid y grŵp ac er mwyn gwella sgiliau’r gweithwyr presennol.

Yn gweithredu yn y sectorau addysg, gofal iechyd, busnes a diwydiant yn ogystal â chwaraeon a hamdden, ar hyn o bryd mae gan Grŵp Compass nifer fach o brentisiaid â Chwmni Hyfforddiant Cambrian ond maent yn bwriadu cynyddu cyfleoedd prentisiaeth yn 2019.

Mae’r amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i weithwyr yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch mewn academïau rheoli cyfleusterau, busnes a phen-cogydd.

“Y rheswm gwnaethon ni ddewis gweithio â Chwmni Hyfforddiant Cambrian oedd hanes cyson y cwmni o ddarparu addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd,” meddai Jonathan Foot, Pennaeth Prentisiaethau a Gyrfa Gynnar yn Grŵp Compass y DU ac Iwerddon.

“Yn fwyaf pwysig, roedd y cwmni’n deall ethos a diwylliant ein busnes a chyfleuwyd hynny’n glir iawn pan wnaethon ni gyfarfod â’r rheolwr gyfarwyddwr Arwyn Watkins a’i dîm.

“Mae prentisiaethau’n bwysig i’n busnes er mwyn datblygu sgiliau ein gweithwyr presennol a denu a chadw talent newydd yn ein busnes trwy gynnig llwybrau dilyniant gyrfa clir.”

Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fod y cwmni wrth ei fodd i fod yn gweithio â Grŵp Compass y DU ac Iwerddon i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus yng Nghymru, gan ddefnyddio’r Rhaglen Brentisiaeth.

“Ein ffocws yw sicrhau ein bod yn darparu atebion arloesol i gefnogi anghenion Grŵp Compass o ran sgiliau personol a busnes i wella perfformiad busnes ar draws y comisiynau contract yng Nghymru,” ychwanegodd.

“Dyma bartneriaeth sydd eisoes wedi buddsoddi amser ac egni sylweddol mewn gosod y sylfeini i recriwtio prentisiaid newydd a gwell sgiliau timau sydd eisoes yn bodoli.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ar draws Cymru gyfan.

Mae’r cwmni’n enwog am deilwra hyfforddiant i ddiwallu anghenion penodol cyflogwyr a dysgwyr. Ymhlith y gwasanaethau cefnogi i gyflogwyr mae hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefan am ddim.

Yna caiff pob swydd ei chysylltu’n ôl â’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru, y mae miloedd o bobl ifanc yn ei ddefnyddio. Gall cyflogwyr hidlo ac adolygu ceisiadau yn hawdd a llunio rhestr fer a gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad, y cwbl o faes personol o’r wefan.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.