Mae busnes cigyddion arlwyo a phrosesu cig, sydd wedi sefydlu academi hyfforddi i feithrin ei weithwyr medrus ei hunan, wedi’i enwi’n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Nghymru.
Cyflwynwyd y wobr i Celtica Foods, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthu bwyd annibynnol Castell Howell, o Cross Hands ger Llanelli, yn noson fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Edward Morgan: “Rŷn ni’n falch iawn o ennill y wobr hon ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, sy’n un o sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ac sy’n cyflogi canran fawr o weithwyr y wlad.
“Rŷn ni’n gyflogwr sylweddol iawn yn Sir Gaerfyrddin a gobeithio y bydd y wobr yn hwb i ni godi’n hyfforddiant i’r lefel nesaf. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn bartner i ni ers 12 mlynedd ac rwy’n credu y gallwn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus gyda’n gilydd.”
Llongyfarchodd Mr Morgan y lleill oedd yn rownd derfynol y dosbarth – Mainetti UK ac Inspiration Lifestyle Services – gan ddweud ei bod yn wych gweld dau gwmni o Shir Gâr yn y rownd derfynol.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.
Uchelgais Celtica Foods yw bod y gorau yn y sector ac mae wedi hyfforddi 45 o brentisiaid dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae ganddo 17 ar y llyfrau ar hyn o bryd.
Mae’r cwmni, sydd â gweithlu o 75, yn cyflenwi cig i dafarndai a bwytai annibynnol, grwpiau lletygarwch, arlwywyr contract, ysbytai ac ysgolion.
Datblygwyd academi hyfforddi gyda chefnogaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian i ddenu rhagor o bobl ifanc i’r sector cig a chynyddu sgiliau’r gweithlu cyfan.
Cynigir rhaglenni yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd a Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd. Caiff y rhaglenni hyfforddi eu haddasu i gwrdd ag anghenion penodol Celtica Foods a’i gwsmeriaid.
“Mae arnon ni angen sgiliau amrywiol, o dynnu’r esgyrn o garcasau cig, a gwneud byrgers a sosejis, i dorri cig yn fanwl er mwyn bodloni gofynion rhai o’n cwsmeriaid,” meddai Edward Morgan, rheolwr gyfarwyddwr Celtica Foods. “Mae hyfforddi a chadw’r staff yn bwysig.
“Er mwyn i Celtica Foods gyflawni ei amcanion, fe welson ni fod angen ffordd wahanol o hyfforddi staff.”
Mae’r cwmni’n rhoi blaenoriaeth i les y staff gan gynnig sesiynau cwnsela cyfrinachol a gwasanaeth therapydd iechyd galwedigaethol i’w staff os bydd angen.
Dywedodd Chris Jones, pennaeth cynhyrchu bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae Celtica Foods yn credu’n gryf mewn buddsoddi yn natblygiad staff ac mae’n gweld y Rhaglen Brentisiaethau fel ffordd ddelfrydol o symud ymlaen â’r busnes.”
Mae gan Celtica Foods safle torri a drwyddedir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae ganddo achrediad Gradd ‘A’ gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain ac achrediad PGI ac mae’n cyrraedd safon amgylcheddol IS01400 a safon ansawdd ISO1900.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, a gyflwynodd y wobr i Celtica Foods: “Rwy’n credu bod gwaith y cwmni yn Cross Hands ac effaith eu hymdrechion i annog pobl nid yn unig i wneud y gorau o’u Prentisiaeth ond hefyd i symud ymlaen i swyddi uwch yn y cwmni yn wych.
“Yn y gorffennol, mae’r sector hwn wedi dibynnu ar recriwtio llawer o bobl o’r tu allan i Gymru ond erbyn hyn mae’n cyflogi mwy a mwy o bobl o Gymru.
“Mae Prentisiaethau’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau pob-oed o safon uchel yn ystod tymor presennol y Cynulliad,” meddai’r Gweinidog.
“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch er budd Cymru gyfan. Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd gyda’r gorau yn y byd.”
Capsiwn llun:
Rheolwr gyfarwyddwr Celtica Foods, Edward Morgan, yn derbyn y wobr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.