Cig Oen Cymreig yw’r cig o ddewis ar gyfer Gwobrau Prawf Blas newydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy’n ceisio arddangos y gorau o gig oen Cymreig
Fel datblygiad newydd ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2018, mae’r gymdeithas wedi ymuno â Hyfforddiant Cambrian, Cymdeithas Coginio Cymru a Thîm Coginio Cymru, i gyflwyno Gwobrau Blas Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Wedi’u dylunio i arddangos y nifer fawr o gynhyrchion arbenigol a gynhyrchir yma yng Nghymru, bydd digwyddiad eleni yn arddangos y dosbarth cyntaf ar gyfer bridiau cig oen Cymreig brodorol (fel y defaid Penfrith Beulah a ddangosir uchod trwy garedigrwydd cymdeithas y brid) am y tro cyntaf – bridiau Cig Oed Brodorol Prawf Blas Cymru.
Mae cymdeithasau bridiau, ar gyfer pob brid brodorol Cymreig a restrir yn adran fyw Rhaglen y Ffair Aeaf (15 i gyd), wedi cael gwahoddiad i roi cynnig ar y gystadleuaeth lle bydd pen cogyddion yn coginio’r darnau o gig oen yn barod ar gyfer panel o feirniaid (ac ymwelwyr â’r Ffair Aeaf) i flasu a phleidleisio dros y brîd sy’n blasu orau.
Bydd carcasau ffres pob brîd wedi cael eu bridio, eu geni a’u magu yng Nghymru, byddant wedi cael eu bwydo â glaswellt yn unig a bydd yn bosibl eu holrhain yn llwyr o’r pridd i’r plât.
Nod y gystadleuaeth hon yw dwyn sylw at ansawdd ein bridiau brodorol Cymreig ‘r gwahaniaethau blas unigryw rhwng pob un ohonynt, yn ogystal â hybu cig oen Cymreig fel cynnyrch premiwm i fusnesau a defnyddwyr.
Cynhelir y digwyddiad yn adeilad Hyfforddiant Cambrian (gyferbyn â’r bandstand) yn ystod y Ffair Aeaf, a chaiff ymwelwyr gyfle i gymryd rhan yn y profion blasu cig oen Cymreig yn ogystal â darganfod mwy am bob un o’r bridiau sy’n cymryd rhan. Bydd arddangosfeydd yn rhoi manylion am bob un o’r bridiau, gan gynnwys gwybodaeth am eu nodweddion unigryw.
“Rydym yn teimlo’n angerddol iawn am y gystadleuaeth hon yma yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru” eglura Will Hanks, Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf.
“Mae’n ffordd berffaith i arddangos a hyrwyddo’r goreuon o’n bridiau brodorol Cymreig, yn ogystal â darparu’r cyfle i gymdeithasau brîd a ffermwyr ddangos bod blas y cig oen Cymreig maent yn ei gynhyrchu’r un mor bwysig â pha mor dda mae’r anifeiliaid yn edrych yng nghylch y sioe.
“Mae’n dda iawn cael rhosglymau coch o fri, ond mae angen i ni hefyd hyrwyddo ansawdd rhagorol a blasau’r bridiau cig oen Cymreig hyn i’r cigyddion, pen cogyddion, perchnogion bwytai ac, yn y pen draw, y defnyddwyr.” ychwanegodd Mr Hanks.
Bydd dwy gystadleuaeth cigyddiaeth y Ffair Aeaf hefyd yn cael eu cynnal yn adeilad Hyfforddiant Cambrian ar ddydd Mawrth y digwyddiad.
Cynhelir Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 26 a dydd Mawrth 27 Tachwedd, ar faes y sioe yn Llanelwedd. Bellach mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein am y pris gostyngol cyn y sioe o £13. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.rwas.wales
I ddarganfod mwy am Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a sioeau cysylltiedig ar wefan Welsh Country ewch i