Weithiau, nid yw academia i bawb, mae pob person ifanc yn y wlad hon yn haeddu cael cynnig pob cyfle i fod y gorau y gallant fod.
Mae Faith wedi bod yn treulio dau ddegawd diwethaf ei gyrfa waith yn hyrwyddo hyn trwy ymgysylltu a chyflwyno dysgu seiliedig ar waith ar hyd a lled y DU ac, yn fwy penodol, yng Nghymru. Daw Faith ag arweinyddiaeth strategol a gweithredol gyda hi a fydd yn ein galluogi ni i gyflwyno cyfleoedd i’r rhai lle nad Safon Uwch neu brifysgol yw’r ffordd i fynd.
Gyda BSc mewn Biocemeg Feddygol a thomen o gymwysterau dysgu seiliedig ar waith, cafodd Faith y fraint o weithio ar lefel ymarferwr a lefel rheoli uwch.
Gan weithio gyda’r uwch dîm rheoli, bydd Faith yn sicrhau bod strategaethau busnes, cynlluniau a gweithredu’n cefnogi diwylliant a gweledigaeth y sefydliad ac, yn y pen draw, o fantais i’r unigolion a’r sefydliadau hynny y gweithiwn gyda nhw.