Nid yw bod yn dda yn ddigon. Rhaid i chi fod y gorau i ymgysylltu, ysbrydoli a llwyddo fel y mae ein datganiad cenhadaeth yn nodi.
Mae Anne yn hanfodol yn hyn o beth, gan oruchwylio datblygiad a chyflwyniad ein cynhyrchion a’n gwasanaethau hyfforddi i ddysgwyr a chyflogwyr mewn sectorau prentisiaeth. Ymunodd Anne â’r cwmni yn 2010 fel cyfarwyddwr sgiliau ar ôl iddi weithio i ni yn y gorffennol rhwng 2001 a 2004 fel tiwtor ac asesydd.
Mae hi wedi gweithio yn y sectorau trin gwallt ac addysg ar hyd ei gyrfa 30 mlynedd o hyd, gan ddod i ddeall pa sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen a sut gellir rhoi’r rhain ar waith trwy hyfforddiant a chymwysterau priodol.
Gyda Gradd BA a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a chyfoeth o gymwysterau diwydiant y City and Guilds a’r QCA, mae Anne yn llwyr werthfawrogi pob agwedd ar hyfforddiant ac addysg o’r ddwy ochr.
Gan weithio gyda’n huwch dîm rheoli i gynllunio ac arwain strategaeth trwy gysylltu’n agos gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol, sgiliau sector, a rhwydweithiau cyflogwyr, mae Anne yn sicrhau bod ein cynhyrchion a’n gwasanaethau’n gyfoes ac yn berthnasol i’r diwydiant a’r dysgwyr.