Mae darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau wedi lansio golwg ffres, newydd â logo cwmni wedi’i ail-frandio a gwefan wedi’i hailwampio, a ddyluniwyd i gefnogi cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru.
Gwnaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian ddewis Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos diwethaf i ddadorchuddio ei ail-frandio a lansio ei wefan newydd â help rhai o’r cyflogwyr y mae’n gweithio â hwy.
Mae’r cwmni, sydd a’i bencadlys yn y Trallwng a swyddfeydd yn Llanelli, Caergybi, Bae Colwyn a Llanfair-ym-Muallt, yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau yn y gwaith, cyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ledled Cymru a Thwf Swyddi Cymru.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn enwog am deilwra hyfforddiant i ddiwallu anghenion penodol cyflogwyr a dysgwyr.
Cafodd y wefan sydd wedi’i hadnewyddu- <https://www.cambriantraining.com> – ei hail-ddylunio yn unol â’r hyn mae’r brand newydd yn ei gynrychioli – gan ganolbwyntio ar ddysgwyr a chyflogwyr.
Mae’r wefan wedi ei moderneiddio yn cynnwys nodweddion syml ac amlwg er hwylustod, delweddau sy’n ysbrydoli o weithleoedd, lle mae’r cwmni hyfforddiant yn gweithio a chynnwys newydd defnyddiol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa, gan gynnwys ‘straeon llwyddiant’ a ‘swyddi gwag’.
“Mae gan ein gwefan newydd olwg a naws modern, bywiog, cyfoes sy’n gysylltiedig â’n logo newydd a’n hail-frandio,” meddai rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Katy Godsell. “Rydym wedi cyflwyno nodweddion newydd a chyffrous i wella’r gwasanaethau cymorth a ddarparwn i gyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru.
“Trwy gynnwys straeon llwyddiant, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu pobl i ddysgu mwy am brentisiaethau trwy brofiad pobl eraill. Ein cenhadaeth yw helpu busnesau i dyfu yng Nghymru trwy recriwtio dysgwyr dawnus i swyddi cynaliadwy a gwerth chweil.”
Mae’r nodwedd ‘swyddi gwag’ newydd yn arbennig o gyffrous ar gyfer Cwmni Hyfforddiant Cambrian oherwydd ei fod bellach yn gallu cynnig y cyfle i gyflogwyr ledled Cymru hysbysebu eu swyddi gwag prentisiaeth o ansawdd a Thwf Swyddi Cymru ar y wefan, yn rhad ac am ddim.
Yna caiff pob swydd ei chysylltu’n ôl â’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru, y mae miloedd o bobl ifanc yn ei ddefnyddio, gan roi cymaint o sylw â phosibl i gyflogwyr.
Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i’r cwmni hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth o amrywiaeth eang o sectorau diwydiant y mae’n cyflawni ynddynt. Gall cyflogwyr hidlo ac adolygu ceisiadau yn hawdd a llunio rhestr fer a gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad, y cwbl o faes personol o’r system. Mae’r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr â’u hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, yn rhoi cymaint o sylw â phosibl i swyddi gwag.
Yn mynychu’r lansiad roedd Brod: The Danish Bakery, Caerdydd, sydd newydd recriwtio ei ail brentis ar ôl hysbysebu trwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau a bydd yn derbyn hyfforddiant oddi wrth Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Rydym eisiau magu’r genhedlaeth nesaf o bobwyr mewn amgylchedd o ansawdd da lle rydym yn defnyddio’r dull becws crefft go iawn,” meddai Betina Skovbro, o Brod: The Danish Bakery. “Credwn fod helpu i roi sgiliau i bobl o unrhyw oedran yn bwysig iawn.
“Mae hyfforddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Mark Llywellyn, wedi bod yn wych ac yn gymorth enfawr i’n prentisiaid. Mae’r dudalen we ‘Swyddi Gwag’ ar eu safle newydd, sy’n gysylltiedig â Gwasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru, mor ddefnyddiol wrth gael yr unigolyn cywir i’ch busnes, ac rydym yn ei hargymell yn llwyr.
Capsiwn y llun:
Yn lansio ail-frandio a gwefan newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian y mae’r rheolwr marchnata Katy Godsell (canol) a’r cynorthwyydd marchnata Katie George (dde) gydag Emina Redzepovic o Brod: The Danish Bakery.