Dangosodd cigydd o’r gororau pwy oedd biau’r fwyell yn rhagbrawf Cymru a Lloger o gystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK yn Birmingham ddoe (dydd Mawrth).
Peter Smith, sy’n gweithio i Jamie Ward Butchers, Yr Ystog, oedd yn fuddugol gan lai na hanner marc yn dilyn y rhagbrawf brwd o ran y cystadlu yng Ngholeg Prifysgol Birmingham.
Ymhlith y cigyddion eraill oedd yn cystadlu oedd Craig Holly, cyn Gigydd Porc Cymru y Flwyddyn o Neil Powell Butchers, Y Fenni, Cigydd y Flwyddyn presennol Cymru Daniel Allen-Raftery o Randall Parker Foods, Llanidloes ac Ashton Lindeman o James of Shepperton Butchers, Surrey.
Fe’u heriwyd i dorri coes o borc ar hyd y cyhyr mewn 45 munud ac i greu arddangosfa farbiciw o gyw iâr, porc, cig eidion a chig oen mewn 90 munud. Ymhlith y beirniaid roedd Roger Kelsey o’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd a Viv Harvey, ymgynghorydd cig.
Bydd chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf o dri rhagbrawf rhanbarthol ar draws y DU yn cymhwyso am y rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd.
Enillwyd rhagbrawf Gogledd Iwerddon, a gynhaliwyd yn y Southern Regional College, Newry ar 5 Mehefin gan Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Clogher. Cynhelir rhagbrawf yr Alban yng Ngholeg Dinas Glasgow ar 26 Mehefin.
Yn rownd derfynol y DU, bydd y chwe chigydd yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.
Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Profir cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.
Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad dyfarnu arbenigol FDQ, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd.
Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu’r gystadleuaeth ar gyfer WorldSkills UK i’r rhagbrawf fod yn destun cystadlu brwd, gyda llai na hanner marc yn gwahanu’r ddau gigydd uchaf. Diolchodd i Goleg Prifysgol Birmingham am gynnal y rhagbrawf ac am ei letygarwch rhagorol.
Er mwyn rhoi cynnig arni, rhaid bod y cigyddion heb gwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol.
Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach ac yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.
Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’r paratoi prentisiaid gyda’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.
Picture caption:
Peter Smith, enillydd rhagbrawf Cymru a Lloegr, yn derbyn ei dystysgrif gan ybeirniaid Roger Kelsey a Viv Harvey.
Peter Smith yn dangos ei sgiliau cigyddiaeth yn y rhagbrawf.
Y cigyddion (yn eistedd o’r chwith) Daniel Allen-Raftery, Craig Holly, Ashton Lindeman a Peter Smith gyda’r beirniaid Roger Kelsey a Viv Harvey a Katy Godsell a Katie George o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.