Mae arweinwyr a rheolwyr tîm da’n hanfodol i lwyddiant unrhyw fusnes. Maent yn ysbrydoli gwell perfformiad ac yn cymell pobl eraill i lwyddo. Mae cyflogwyr sy’n buddsoddi yn eu harweinwyr a’u rheolwyr yn elwa ar amgylchedd gweithio mewn tîm mwy agored a ffyddiog.
Gallech fod yn gweithio fel arweinydd sifft, is-fforman, arweinydd isadran, arweinydd tîm, rheolwr llawr, rheolwr hyfforddeion, dirprwy reolwr neu oruchwyliwr. Gall prentisiaethau helpu staff i ddatblygu a defnyddio sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus.
Yn Hyfforddiant Cambrian, cynigiwn prentisiaethau i weddu holl ardaloedd ar draws Cymru o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch. Gall prentisiaethau helpu staff i ddatblygu a defnyddio sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus.
Bydd ein rhaglenni prentisiaeth yn rhoi i chi’r sgiliau sydd angen i lwyddo yn y diwydiant.
Hyfforddiant a Phrentisiaethau
Gellir defnyddio prentisiaethau mewn Arwain a Rheoli Tîm ar draws ystod eang o sectorau a rolau swyddi, a chyflwynir hyfforddiant mewn ystod eang o ffurf. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith prentisiaeth syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.
Ei nod yw roi cyfle i unigolion i ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr, i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel i gyflwyno hyfforddiant mewn Busnes a Gweinyddiaeth.
Cymwysterau Prentisiaeth ar gael;
- Arwain Tîm Lefel 2
- Rheolaeth Lefel 3
- Rheolaeth Lefel 4
- Rheolaeth Lefel 5
Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.
Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >>
Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid, gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.
Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.