Mae helfa genedlaethol wedi’i lansio i ddod o hyd i gigyddion dawnus sydd ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill i ddilyn yn olion traed James Taylor o Swydd Lincoln.
Enillodd James, sy’n gweithio i G Simpson Butchers yn Heckington, gystadleuaeth Cigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK fis Tachwedd diwethaf ac mae ei olynydd yn cael ei chwilio amdano ar hyn o bryd.
Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amryddawn yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Gall cigyddion gofrestru ar-lein tan 7 Ebrill yn https://www.worldskillsuk.org/register-for-a-competition.
Caiff y cigyddion eu profi am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, y carcas a’r defnydd pennaf ohono, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.
Bydd y rowndiau rhanbarthol neu asesu’n cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a Gorffennaf a bydd y chwe chigydd â’r sgorau uchaf ar draws y DU yn cymhwyso am y rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd.
Yn y rownd derfynol, bydd y cigyddion yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.
Trefnir y gystadleuaeth cigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r Food and Drink Education Training Council, The Institute of Meat, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd.
Nid oes angen cymwysterau ar gigyddion er mwyn rhoi cynnig, ond ni ddylent fod wedi cwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol.
Rhaid iddynt feddu ar sgiliau cyllell a chigyddiaeth sylfaenol ac eilaidd da, gan gynnwys cigyddiaeth ar hyd y cyhyr, ac o leiaf chwe mis o brofiad ymarferol, sgiliau clymu â llinyn da, profiad o wneud selsig a’r gallu i weithio dan bwysau o flaen cynulleidfa.
Mae cigyddiaeth yn un o blith dros 60 o sgiliau sydd wedi’u cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni sydd wedi’u profi i helpu pobl ifanc i fynd ymhellach yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar y safonau uchaf yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cyflwynant fanteision nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr, ond hefyd i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n darparu sgiliau o’r radd flaenaf i’r prentisiaid yn y diwydiant – sgiliau y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.
Credodd dros 95% o’r ymgeiswyr blaenorol fod cymryd rhan yn y cystadlaethau, ar unrhyw lefel, wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd.
“Mae’n bwysig fod cigyddiaeth yn cael ei chynrychioli fel sgil yn WorldSkills UK oherwydd mae’n grefft go iawn y mae angen ei meincnodi a’i hyrwyddo,” meddai Arwyn Watkins, prif weithredwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian. “Mae ei gynnwys am y pedwerydd tro’n cynnig arf gwych i godi safonau a phroffil y diwydiant.