Mae Hannah Blakely, un ar bymtheg oed o Goleg Dinas Leeds wedi cael ei choroni fel enillydd rhagbrawf Cymru o gystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills.
Trechodd Blakely gystadleuaeth galed oddi wrth Peter Rushforth 19 oed o Siop Fferm Swans yn yr Wyddgrug, a enillodd yr ail wobr, ac enillwyr y trydydd gwobrau Liam Lewis, 28 oed o Siop Fferm Ystâd Penarlâg ger Caer a Peter Smith 31 oed o Morrisons y Trallwng.
“Dwi’n hapus iawn bod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed,” dywedodd Blakely. “Mae’r lleill ychydig yn h?n na fi ac wedi gwneud dipyn mwy, felly nid oeddwn i’n gwybod beth i’w ddisgwyl ond dwi’n falch, dwi mor falch. Mae fel pwysau oddi wrth fy ysgwyddau bellach.”
I baratoi ar gyfer y digwyddiad, dywedodd Blakely ei bod wedi bod yn ymarfer bob wythnos yn y coleg, ac yn paratoi yn ei chartref hefyd.
Cafodd y rhagbrawf ei wahanu yn ddwy her. Yn y cyntaf cafodd y cigyddion yr her o dorri ochr cyfan o gig eidion mewn 45 munud. “Yr hyn roedden ni’n chwilio amdano oedd gallu’r ymgeiswyr i wahanu’r ochr yn llawr gwahanol gyhyr,” meddai Roger Kelsey, cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig (NFMFT) ac un o’r beirniaid.
“Y syniad oedd eu bod yn gwahanu’r cyhyrau, yn tynnu’r gïau ac yn tynnu’r braster, felly pan roedden ni’n edrych ar y cynnyrch terfynol roedd cyhyrau neis wedi’u diffinio heb unrhyw dyllau. Gwnaethon ni hefyd edrych ar y trimio gïau, gwnaethon ni edrych ar y braster, a rhan o’r meini prawf oedd eich bod yn edrych am sgiliau da â chyllell.”
Yn yr ail her roedd y cystadleuwyr yn cynhyrchu arddangosfa barbeciw allan o un cyw iâr gyfan, darn 500g o ochr cig eidion, ysgwydd cig oen 1.5kg a lwyn porc di-asgwrn 500g mewn awr a hanner.
Esboniodd Kelsey fod cynhyrchion arloesol a’r defnydd o farinadau a ryseitiau’n feysydd pwysig o ffocws. “Roedden ni hefyd yn edrych am sgiliau o ran coginio,” meddai. “Mae’n dda iawn cynhyrchu cynnyrch, ond os na allwch ei goginio neu os na all yr unigolyn sy’n ei gynhyrchu ei goginio, yna ni allwch gynghori’r defnyddiwr, felly mae gwybodaeth gefndirol yn bwysig hefyd.”
Canmolodd ymgynghorydd y diwydiant Viv Harvey, a oedd hefyd yn feirniad, y cystadleuwyr am eu lefel uchel o allu. “Cawson ni sesiwn feirniadu dda iawn heddiw (dydd Mawrth 24 Mai 2016),” meddai. “Roedden nhw’n agos iawn, iawn. Roedd amrywiaeth dda o sgiliau o ansawdd ar ddangos, ac, yn achos y beirniaid, roedd gennym ni her.
“Fel arfer, byddwch chi’n cael cystadleuaeth lle bydd gennych un gwannach sy’n sefyll allan o’r cychwyn, ond y tro hwn roedd hi’n agos iawn, iawn ac ar ddiwedd y gystadleuaeth, mewn gwirionedd roedd yn rhaid i ni bwyso’r cynnyrch i weld yngl?n ag unffurfiaeth a rheoli dogn.”
Ychwanegodd Harvey fod safon y gystadleuaeth yn gwella bob blwyddyn. “Pobl ifanc yw’r rhain sy’n dod i mewn i’r diwydiant ac mae’n dangos bod llawer o angerdd yn dal i fod yno i’w ennill. Ar yr oedran hwn mae’r bobl ifanc fel sbyngau ac maen nhw’n edrych am gymaint o wybodaeth a hyfforddiant ag y gallan nhw gael – a dyna beth mae’r gystadleuaeth yn ymwneud ag ef.”
Cynhelir rhagbrawf Gogledd Iwerddon ar 21 Mehefin ac yna rhagbrawf Lloegr ar 5 Gorffennaf.
Bydd y chwe chystadleuydd sy’n ennill y sgoriau uchel ar draws y tri rhagbrawf yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y rownd derfynol yn yr NEC ym Mirmingham ar 17-19 Tachwedd.
Cafodd cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills ei threfnu gan Gwmni Hyfforddiant Cambria, ac ymhlith y partneriaid nawdd mae NFMFT, the Institute of Meat, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales a Viv Harvey. Meat Trades Journal yw’r partner cyfryngau unigryw.