Gwobrau prentisiaeth fesul dwy ar gyfer cwmni ailgylchu “ysbrydoledig”

Cafodd dull unigryw o ymdrin â chyflogaeth a hyfforddiant gan gwmni gwastraff ac ailgylchu yng Ngogledd Cymru ei gydnabod â llwyddiant dwbl yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Cwmni dan eiddo teuluol yw Thorncliffe Abergele a sefydlwyd yn Abergele ym 1987, ac mae wedi cael ei ddisgrifio gan ddarparwr hyfforddiant fel “ysbrydoledig”. Cafodd ei enwi’n Cyflogwr Canolig ei faint y Flwyddyn ac enillodd y goruchwylydd Sean Williams wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Dywedodd y rheolwr safle Stephen Harper ei bod yn wobr “enfawr i’w hennill”. “Mae’n golygu llawer i mi oherwydd ein bod wedi rhoi swyddi a rhoi ail gyfle i gyn troseddwyr,” ychwanegodd. “Mae Thorncliffe yn gwmni sy’n ehangu ac mae angen pobl fedrus arnom ni.”

Mae’r cyn troseddwr Sean, 27, o Lanelwy, wedi cipio ei ail gyfle i droi ei fywyd o gwmpas a gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa i gefnogi ei deulu. “Roeddwn i yn y carchar llawer fel dyn ifanc am ymladd ond mae fy swydd a’m merch dwy oed, Maizie Jaye, wedi newid fy mywyd. Dwi’n gwneud popeth er ei mwyn hi.

“Roeddwn i’n meddwl y buaswn i bob amser i mewn ac allan o’r system garchar, ond mae’n dangos, os ydych chi’n fodlon dysgu a newid eich bywyd, gall unrhyw un wneud hyn.

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth fy mod wedi ceisio talu cymdeithas yn ôl am hyn y gwnes i pan oeddwn i’n iau. Ni allwn ofyn am well bos na Steve Harper sydd wedi rhoi cymaint o gyfrifoldeb i mi yn y gwaith.”

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo proffil uchel yn y Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, ac roedd 450 o westeion. Mae’r gwobrau o fri yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos dull dynamig o ymdrin â hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, arloesedd, creadigrwydd ac ymrwymiad i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Pearson CCC yn eu noddi a Media Wales yw’r partner yn y cyfryngau. Mae’r Rhaglen Brentisiaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Thorncliffe Abergele wedi lleihau swm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi o 8,384 tunnell yn 2013 i 887 tunnell y llynedd a’i nod yw sero gwastraff. Mae gan y cwmni weithlu o 52 ac mae wedi buddsoddi mewn cyfarpar o’r radd flaenaf, gan gynnwys ffatri prosesu tanwydd sy’n deillio o sbwriel, sy’n creu bêls o wastraff.

Er mwyn cyflawni ei nodi, lansiodd y cwmni rhaglen Brentisiaeth, gan weithio’n agos â’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, tair blynedd yn ôl. Mae’r cwmni wedi recriwtio 28 prentis ers dechrau’r rhaglen ac ar hyn o bryd mae saith yn gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.

Gan weithio â’r Gwasanaeth Prawf, mae Thorncliffe Abergele yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i gyn troseddwyr, rhaglen a enillodd Gwobr Inspire! am y prosiect gorau oherwydd ei effaith bositif yn y gymuned leol.

Hefyd mae’r rheolwr safle Mr Harper wedi cael ei enwebu am wobr Comisiynydd Heddlu a Throseddu am ei waith gyda chyn troseddwyr. “Mae’r prosiect yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth sy’n galluogi pobl i droi eu bywydau o gwmpas, ennill hyfforddiant a sgiliau newydd a darparu dyfodol cynaliadwy iddyn nhw a’u teuluoedd.

“Mae Heather Martin o Gwmni Hyfforddiant Cambrian wedi cyfrannu llawer o amser ac ymdrech yn hyfforddi pobl i’r safon ofynnol.”

Disgrifiodd Heather ymrwymiad Thorncliffe Abergele at roi ail gyfle i droseddwyr fel “dull hollol ysbrydoledig o ymdrin â chyflogaeth a hyfforddiant.”

Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy, bellach mae Sean yn gweithio tuag at Brentisiaeth ac mae’n gobeithio symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch fel y bydd yn gallu rhedeg y safle un diwrnod. Mae wedi dysgu sut i redeg a chynnal cyfarpar newydd i greu bêls o wastraff i’w defnyddio fel tanwydd sy’n deillio o sbwriel.

Cafodd swydd ar ôl cael ei gyflwyno i’r cwmni gan raglen y Gwasanaeth Prawf, “8 ways to change your life” a chael cynnig profiad gwaith. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar, bu’n ddi-waith am chwe mis ac roedd yn ofni nad oedd ganddo fawr o obaith o waith oherwydd ei gofnod troseddol.

“Dwi wedi herio fy hun i newid fy holl fywyd i un sy’n canolbwyntio ar fy nheulu a darparu ar eu cyfer yn hytrach na bywyd o droseddu,” meddai Sean. “
“Er dechrau ar Brentisiaeth Sylfaen, dwi wedi manteisio ar bob cyfle sydd ar gael i mi i wneud cynnydd a chreu gyrfa i fy hun a dwi wedi cydnabod bod addysg a hyfforddiant yn chwarae rhan enfawr yn hyn.”

Meddai Mr Harper: “Mae Sean yn unigolyn penderfynol, sy’n gweithio’n galed iawn, sy’n gosod esiampl wych i bobl eraill sydd wedi gwneud rhai dewisiadau anghywir, gan ddangos iddyn nhw ei bod yn bosibl troi eu bywydau o gwmpas.”

Meddai Julie James y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae gennym rhai dysgwyr a phrentisiaid gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae’r gwobrau hyn yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu cyflawniadau a’u gwaith caled.

“Mae’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, gan fynd cam yn ychwanegol i gefnogi eu prentisiaid. Rydym yn falch ein bod yn darparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, â chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn parhau i fod ymhell dros 80 y cant. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.”

Capsiwn y llun:

Rheolwr safle Thorncliffe Abergele Steve Harper (chwith) a Sean Williams yn dathlu â’u gwobrau.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr marchnata a chyfathrebu NTfW, ar Ffôn: 02920 495861