Chwe chigydd yn cymhwyso am Rownd Derfynol Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth

Bydd cigyddion dawnus o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ceisio cael y gorau ar eu gelynion yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth ym mis Tachwedd.

Cyhoeddir chwe chigydd uchaf eu sgôr o’r rowndiau rhagbrofol cyfunol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr heddiw a nhw nawr fydd yn profi eu sgiliau yn y rownd derfynol yn Y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC, Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Yn cynrychioli Cymru, mae Matthew Edwards, 23 oed, o Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, Daniel John Allen-Raftery, 31 oed, o Randall Parker, Llanidloes a Peter Rushforth, 19 oed, o Swans Farm Shop, Yr Wyddgrug. Creodd pob un ohonynt argraff yn rhagbrawf Cymru a gynhaliwyd gan Randall Parker Foods yn Nolwen, Llanidloes.

Yn cynrychioli Lloegr, ar ôl cymhwyso mewn dau ragbrawf a gynhaliwyd yn Leeds fis diwethaf, mae John Brereton, 40 oed, rheolwr cigyddiaeth yn y Ludlow Food Centre arobryn yn Llwydlo a Matthew Parkes, 21 oed, rheolwr cynorthwyol yn Walter Smith Fine Foods yn Willenhall.

Bydd Dylan Gillespie, 19 oed, o Clougher Valley Meats, Clougher, Tyrone, a enillodd ragbrawf Gogledd Iwerddon yn y Southern Regional College, Newry, yn rhoi gobaith i’r Gwyddelod.
Cadeirydd y beirniaid ym mhob rhagbrawf oedd ymgynghorydd y diwydiant cig, Viv Harvey.

Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran Worldskills UK a noddwyd y rhagbrofion gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig a PBEX.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael ei chynnwys yn y cystadlaethau eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd y prif chwaraewyr yn y diwydiant cig er mwyn ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Llongyfarchodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y sawl yn y rownd derfynol a chanmolodd y safonau uchel a gyflawnwyd yn y rhagbrofion. “Rydym yn falch iawn o ddod â chigyddiaeth i’r Sioe Sgiliau am y tro cyntaf a dylai pob un o’r chwech yn y rownd derfynol fod yn falch iawn o’u cyflawniadau hyd yma yn y gystadleuaeth hon,” meddai.

“Mae hwn yn arddangos y sgiliau ar gyfer cigyddiaeth a gobeithiwn wneud y gystadleuaeth gychwynnol hon yn un o’r prif nodweddion yn y Sioe Sgiliau eleni er mwyn cael cefnogaeth barhaus i gigyddion am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r partneriaid yn cynnwys Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Bwyd a Diod, y Sefydliad Cig, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods a Mr Harvey.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i ddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn er 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818