Mae’r ymgyrch flynyddol ar waith i ddod o hyd i gigydd ifanc gorau Cymru, a allai agor y drws i lwyddiant rhyngwladol.
Bydd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn dwyn ynghyd gigyddion mwyaf dawnus y wlad yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Msuallt ar ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr. Byddant yn cael cyfle i ddangos eu gwybodaeth a’u sgiliau cyllell a chyflwyno o flaen cynulleidfa frwd yn y Neuadd Garcasau.
Trefnir y gystadleuaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng ac fe’i noddir ar y cyd gan Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r busnes cig o’r Trallwng, WMO.
Er mwyn cael cyfle i ennill y teitl chwenychedig, y tlysau a’r gwobrau ariannol, rhaid bod y cigyddion wedi bod yn 23 oed neu’n iau ar 1 Ionawr eleni a gweithio yng Nghymru.
Mae gan y cystadleuwyr hyd at 10 Tachwedd i roi eu henw gerbron am y gystadleuaeth. Rhaid cael esboniad ysgrifenedig heb fod yn fwy na 250 o eiriau gyda’r ffurflen gais, gyda chefnogaeth ffotograffau, pam y mae ychwanegu gwerth at eu hystod o gynnyrch cig Cymreig gyda’u sgiliau cigyddiaeth yn bwysig a pham y byddant yn denu cwsmeriaid newydd ac yn cadw cwsmeriaid sy’n bodoli.
O’r ceisiadau, bydd pedwar yn cael eu dewis i’r rownd derfynol a’u her fydd darnio brisged o Gig Eidion Cymreig, ysgwydd o borc Cymreig, cyfrwy cyfan o Gig Oen Cymreig gyda brest a chyw iâr gyfan Gymreig Cefn Llan yn doriadau o’u dewis sy’n ychwanegu gwerth ac ansawdd gwerthadwy.
Bydd panel o feirniaid profiadol yn chwilio am syniadau creadigol, technegau torri ac arddangos, gwerth ychwanegol, diogelwch bwyd a hylendid personol, yr uchafswm cynnyrch o’r carcas a chynnwys sgiliau.
Rhaid dychwelyd y ffurflenni cais sydd ar gael i’w lawrlwytho yn www.cambriantraining.com, i Chris Jones naill ai drwy’r e-bost chrisjones@cambriantraining.com neu drwy’r post i Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Y Swyddfeydd @ Coed-y-Dinas, Y Trallwng, Powys SY21 8RP.
Dywedodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Bob blwyddyn, rydym yn gweld doniau newydd yn y gystadleuaeth hon wrth i gigyddion ifanc godi’r safon gyda’u sgiliau lefel uchel, sy’n helpu hybu cigyddiaeth fel gyrfa gyffrous a gwerth chweil.
“Ein nod yn y pen draw yw datblygu sgiliau o’r radd flaenaf yng Nghymru er mwyn i’n cigyddion ifanc allu cystadlu gyda’r goreuon ar lefel ryngwladol.”
Aeth enillydd y llynedd, Matthew Edwards, 23 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Pen-y-ffordd, ger Caer, ymlaen i gystadlu dros Brydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi.
Dechreuodd ar ei daith cystadlu’n rhyngwladol yng nghystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ac aeth ati i ennill ei le yn nhîm Prydain Fawr ar ôl dod yn agos at y brig yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc y Ffederasiwn Masnachwyr Cig a Bwyd yn yr NEC, Birmingham.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818