Egin gogydd ifanc o Landinam yn coginio’i ffordd i lwyddiant ar brentisiaeth

Mae Rhiannon Morris, 18 oed, wedi mynd o wneud cinio dydd Sul yn ei chartref yn blentyn ifanc i ddod yn gogydd prentis arobryn yn The Lion Hotel yn Llandinam.

Dechreuodd Rhiannon, sy’n byw yn Llandinam, weithio yng nghegin y gwesty pan oedd hi’n 15 oed ac yn astudio am ei harholiadau TGAU. Parhaodd i weithio yn y gwesty’n rhan-amser pan aeth hi i’w choleg lleol i astudio BTEC mewn arlwyo.

Penderfynodd ei bod hi am ennill mwy o brofiad ymarferol nag y gallai cwrs ei choleg ei roi, felly aeth Rhiannon i weithio’n amser llawn yn The Lion Hotel a chafodd gyfle i astudio am brentisiaeth dan arweiniad y cogydd-berchennog, Nick Davies.

Trwy Brentisiaeth Coginio Celfydd The Lion Hotel, mae Rhiannon wedi dysgu’r sylfaen i fod yn gogydd proffesiynol. Ers hynny, mae hi wedi ennill cystadlaethau cenedlaethol gyda Nick ac mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau coginio.

Dywedodd: “Rydw i wedi dwlu ar goginio erioed. Pan oeddwn i’n rhyw bedair neu bump oed, roeddwn i’n arfer sefyll ar ben cadair yn y gegin er mwyn i mi allu cyrraedd y bwrdd gwaith a phobi cacennau gyda nain. Roeddwn i’n arfer gwneud cinio dydd Sul i’m teulu’n eithaf cyson felly rydw i wedi arfer paratoi bwyd ers yn ifanc.

“Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gweithio rhywsut yn y maes coginio. Mae’r brentisiaeth yn y Lion Hotel wedi dysgu cymaint yn fwy i mi na chwrs yn y coleg. Rydw i’n gorfod coginio mewn amser go iawn a deall y pwysau o weithio’n gyflym a chynhyrchu prydau o safon uchel. Mae Nick wedi bod yn fentor gwych i mi ac rydw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau gweithio gydag ef.”

Ers dechrau ar y cynllun, mae Rhiannon wedi ymuno gyda’r cogydd-berchennog, Nick Davies, i ennill cystadleuaeth Brwydr y Ddraig i arddangos y gorau o goginio Cymru’n gynharach eleni. Yn ystod y gystadleuaeth, gweinodd y tîm amrywiaeth o fwyd môr lleol, cig oen Cymreig a phwdinau cymhleth, rhywbeth y mae’r brentisiaeth Coginio Celfydd wedi’i pharatoi hi’n llwyr ar ei gyfer.

Dywedodd Rhiannon, “Mae’r cwrs yn ein paratoi ni am bob agwedd ar goginio proffesiynol. Rydym wedi dysgu paratoi’r holl gigoedd, dofednod, cyrsiau cyntaf, pwdinau a sawsiau ac rydw i wedi cael cyfle hefyd i helpu Nick i greu bwydlenni i’r gwesty.”

Bydd Rhiannon yn gorffen ei phrentisiaeth ym mis Hydref ac mae ganddi uchelgeisiau mawr ar gyfer ei dyfodol. Aeth ymlaen: “Dwlen i symud i rywle fel Llundain i gael mwy o brofiad a gweithio mewn gwesty enwog. Rydw i wedi dysgu cymaint o weithio yn y Lion a byddwn i’n cynghori unrhyw un sy’n ystyried y llwybr hwn i fynd amdani a chael cymaint o brofiad ymarferol â phosibl. Dim ond y brentisiaeth oedd yn gallu gwneud hyn i mi a theimlaf fy mod i wedi ennill cymaint o ddechrau fy hyfforddiant yn y gegin.”

Ail-agorodd gwesty’r Lion ei ddrysau i’r cyhoedd yn 2011 ar ôl ailfuddsoddiad sylweddol. Cyflogodd y cogydd-berchennog Nick Davies ei bedwar prentis cyntaf ym mis Rhagfyr 2011.

Dywedodd, “Pan ail-agorom ar gyfer busnes, cawsom ymholiadau gan bobl ifanc oedd yn chwilio am waith. Penderfynom ddechrau ein cynllun prentisiaeth ein hunain er mwyn tyfu’n sylfaen staff a’u hyfforddi i’r safonau uchel y mae arnom eu hangen.

“Trwy’n darparwr Hyfforddiant Cambrian, gallwn gynnig cyfle prentisiaeth i bob aelod o’n tîm i weddu i ofynion eu swydd, sy’n golygu eu bod nhw’n dysgu’n union yr hyn y mae ar y diwydiant ei angen ac yn eu cadw nhw’n uchel eu cymhelliant ac yn cadw’u ffocws. Ni fyddai’r Lion lle mae heddiw heb ein staff sydd wedi’u hyfforddi i raddau helaeth.

“Rydw i’n hynod falch o’r cynllun prentisiaeth y gallwn ni ei gynnig i bobl ifanc ac mae Rhiannon wedi ennill sylfaen gadarn iawn i fynd gyda hi i ba bynnag agwedd ar arlwyo y dymuna’i dilyn. Mae’r byd o’i blaen hi.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae Prentisiaethau’n ffordd wych i bobl ifanc ddechrau gyrfa lwyddiannus, gan roi’r cyfle iddynt ennill cymwysterau cydnabyddedig yn ogystal â sgiliau hanfodol, ymarferol a pherthnasol, wrth ennill cyflog.

“Ond mae llawer o fyfyrwyr yn dal i fod yn anymwybodol o nifer ac amrywiaeth y dewisiadau sydd ar gael iddynt yn 16 neu’n 18 oed. Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru’n aros yn nerfus am eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr wythnos hon, gobeithiwn y bydd rhannu straeon fel un Rhiannon o gymorth i’r rheiny sy’n paratoi i wneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol, ac yn ailadrodd yr amrywiaeth dewisiadau sydd ar gael yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried prentisiaethau fel ffordd wych o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i’r afael â’r prinder sgiliau ac yn y pen   draw cryfhau economi Cymru.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, neu i gael gwybod am y dewisiadau eraill sydd ar gael i bobl ifanc trwy’r ymgyrch Ble Nesaf, ewch i http://www.careerswales.com/server.php?show=nav.9865&outputLang=Tr1 neu ffoniwch 0800 100 900. Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook hefyd yn www.facebook.com/apprenticeshipscymru