Mae bwyty o ansawdd uchel gydag ystafelloedd, sy’n datblygu ei dîm staff ei hun, mewn tref farchnad hanesyddol yng Nghanol Cymru, wedi nodi mis cyntaf prysur.
Mae Siartwyr 1770 yn Y Trewythen, a leolir yn hen Westy Trewythen yn Llanidloes, wedi creu 16 o swyddi llawn amser a rhan-amser, gan gynnwys chwe phrentisiaeth, fel rhan o fuddsoddiad o £250,000 yn y busnes newydd.
Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr prentisiaeth flaenllaw i’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru, sy’n berchen ar y bwyty ag ystafelloedd. Mae’r Cwmni yn gobeithio datblygu templed busnes y gellid o bosib ei ddefnyddio mewn trefi eraill yn y dyfodol.
Yn wyneb argyfwng recriwtio o fewn y diwydiant lletygarwch ledled y DU, mae Siartwyr 1770 yn Y Trewythen, yn defnyddio prentisiaethau i dyfu ei staff ei hun dan arweiniad aelodau profiadol o’r tîm, gan gynnwys rheolwr gwesty gweithredol Jo Davies a’i gŵr, Nick, y prif gogydd gweithredol.
Mae’r prentisiaid yn gweithio tuag at Brentisiaethau Sylfaenol a Phrentisiaethau mewn gwasanaethau lletygarwch trwyddedig, cynhyrchu bwyd a sgiliau coginio a goruchwylio glanhau, a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae’r busnes newydd wedi’i leoli mewn adeilad Sioraidd rhestredig Gradd ll sydd wedi’i drawsnewid yn fwyty gyda saith ystafell wely ên suite wedi’u hadnewyddu, pob un â Wifi am ddim, teledu sgrin fflat digidol, cyfleusterau gwneud te a choffi ac ystod o gynnyrch ymolchi. Mae ystafelloedd teulu mawr at gyfer hyd at bump o bobl. Gellir archebu yma. www.trewythenhotel.wales.
Mae gan y bwyty, sy’n cynnig “profiad bwyta” gyda gwasanaeth bwrdd, digon o le ar gyfer 50 gan gynnwys pedwar pod bwyta yn yr awyr agored, pob un â bwrdd ar gyfer chwech. Mae’r ffocws ar gynhwysion ffres a thymhorol a diodydd o Gymru.
Mae’r gwesty yn croesawu archebion ac mae rhai gwesteion eisoes wedi bwcio ar gyfer 2022. Mae’r bwyty’n arbennig o brysur, gyda chwsmeriaid yn mwynhau’r profiad pod bwyta awyr agored, gyda stêcs a physgod ffres yn ffefrynnau ar y fwydlen.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins: “Rwy’n falch iawn o adrodd bod agoriad ein busnes newydd Siartwyr 1770, yn Y Trewythen, wedi cael derbyniad da iawn a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol ac ymwelwyr am eu cefnogaeth.
“Rydyn ni ar ddechrau’r siwrnai fusnes ac yn cymryd agwedd ofalus oherwydd y diffyg gweithlu sydd ar gael a’r angen i ddatblygu staff sydd â sgiliau lletygarwch.
“Rydyn ni’n ceisio dangos pa mor dda y gall gyrfa yn y diwydiant lletygarwch fod a pha gyfleoedd sydd ar gael yn lleol.”
“Am y 18 mis nesaf, bydd ein prentisiaid yn datblygu sgiliau sylfaenol a chyfle i ddangos eu sgiliau fel rhan o’r gwaith. Nid oes unrhyw beth i’w hatal rhag dysgu yn Y Trewythen ac yna symud ymlaen o fewn ein rhwydwaith neu efallai ymgeisio am gyfleoedd eraill yn y busnes yn y dyfodol. ”
Mae Siartwyr 1770 yn Y Trewythen yn awyddus i chwarae ei ran wrth sefydlu Llanidloes, y dref gyntaf ar Afon Hafren, fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid, wrth droed mynyddoedd y Cambrian.