Y Cigydd Buddugol Tomi’n Apelio Am Geisiadau Gwobr VQ Yng Nghymru

Mae un o gigyddion mwyaf adnabyddus Cymru’n apelio at ddysgwyr a chyflogwyr i roi cynnig ar Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, sy’n cael eu lansio heddiw (dydd Mercher, 5 Chwefror)

Cafodd Tomi Jones, 24 oed, perchennog Jones’s Butchers, Llangollen, hwb enfawr i’w yrfa a’i fusnes ar ôl ennill gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn ar gyfer Cymru yn 2013 ac nid oes ganddo unrhyw amheuaeth ynghylch gwerth hyfforddiant galwedigaethol.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir ddilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes. Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad at wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.

“Roedd ennill y Wobr VQ y llynedd yn gyflawniad enfawr i mi fel cigydd a chreodd y cyhoeddusrwydd o’i gwmpas lawer o archebion ychwanegol i’r siop a’m busnes ar-lein,” meddai Tomi, cyn bencampwr Cigydd Ifanc Cymru. “Mae’n profi bod gwaith caled ac ymroddiad yn eich arwain i’r fan yr ydych chi am fod.

“Byddwn i’n sicr yn annog dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru i roi cynnig ar y wobr eleni. Mae fel y Loteri Genedlaethol, mae’n rhaid i chi gymryd rhan er mwyn ennill. Os enillwch chi, bydd yn eich datblygu chi fel person ac yn rhoi sylw i chi os oes gennych fusnes.”

Ers iddo ennill y Wobr VQ, penodwyd Tomi’n llysgennad ar gyfer yr ymgyrch Sgiliau’r Dyfodol…gair yn ei bryd’ a chystadlodd yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd yn yr NEC, Birmingham.

Ei nod eleni yw canolbwyntio ar ehangu ei fusnes yn Llangollen ac mae ganddo gynlluniau cyffrous ar y gweill. Mae’n gigydd trydedd genhedlaeth ac wedi rhedeg y busnes ers pedair blynedd ac mae’n cyflogi dau brentis.

Gan iddo gwblhau Prentisiaeth mewn Sgiliau Cigyddiaeth, mae’n bwriadu symud ymlaen i Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel Pedwar mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd gyda’r darparwr hyfforddiant arobryn Cwmni Hyfforddiant Cambrian eleni.

Anogir dysgwyr a busnesau ledled Cymru i ddilyn yng nghamau Tomi trwy roi cynnig ar y Gwobrau VQ a gefnogir gan yr UE eleni. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 4 Mehefin, sef Diwrnod VQ. Dathliad cenedlaethol yw hwn o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i ffurflenni enwebu am wobr yn: www.vqday.org.uk/vq-awards a rhaid iddynt gael eu llenwi erbyn 2 Mai.

Nod Diwrnod VQ, sy’n fenter a sefydlwyd gan yr elusen addysg annibynnol Edge Foundation, yw codi ymwybyddiaeth o’r rôl y chwaraea dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol mewn cymdeithas ac yn economi’r DU. Cefnoga Diwrnod VQ yr uchelgais fod cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig, gyflawni parch cydradd ochr yn ochr â llwybrau addysgol eraill.

Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru: “Mae’n bryd i Gymwysterau Galwedigaethol gael y gydnabyddiaeth maent yn eu haeddu. Nhw yw’r safon aur mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd o ran eu gwerth i ddysgwyr ac economi Cymru. “Mae gan Gymru wir gyfoeth o bobl ddawnus ac ymroddedig sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau galwedigaethol ac mae Diwrnod VQ yn gyfle i ni ddathlu eu cyflawniadau. Fel y dangosa stori Tomi i ni, mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at y proffesiwn a ddewiswyd gennych. “Mae’r un mor bwysig hefyd ein bod ni’n cydnabod rôl y cyflogwyr wrth hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle. Bydd eu cefnogaeth a’u hymrwymiad hwy’n hollbwysig er mwyn i ni gyflawni’n huchelgais o greu Cymru hynod fedrus.”

Anogir darparwyr dysgu ledled Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ a chysylltu â dysgwyr o bob oedran. Cydlynir Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac fe’u hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn, gan eu bod yn cyflwyno’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818.