Mae 2020 ar ben ac mae hynny’n golygu gwneud rhai Addunedau Blwyddyn Newydd, beth am anelu i ddysgu sgiliau newydd yn 2021 a helpu’ch gyrfa i dyfu.
Rydyn ni wedi rhestru ychydig o Addunedau Blwyddyn Newydd Gyrfa i chi edrych arnyn nhw;
Cliriwch eich gweithle
Mae’n haws o lawer canolbwyntio wrth weithio ar ddesg lân a threfnus, felly beth am wneud hi’n flaenoriaeth i chi glirio’ch hen ffeiliau a’ch gwaith papur, tynnu’r annibendod ac efallai tacluso’ch ffeiliau cyfrifiadur a’ch bwrdd gwaith.
Byddwch yn fwy heinin
Nid ydym yn sôn am ymuno â’r gampfa nac ymuno â threialon – dim ond ymgorffori mwy o weithgaredd yn ystod eich diwrnod gwaith. Efallai taith gerdded ysgafn amser cinio, gan ddefnydio’r grisiau yn hytrach na’r lifft neu hyd yn oed gwneud ychydig o neidiau seren yn ystod y prynhawn i gael eich calon i rasio a gwneud y meddwl i fod yn fwy egnïol.
Byddwch yn fwy cynhyrchiol
Sicrhewch eich bod yn cwblhau tasgau yn effeithlon, efallai cadw amser penodol yn eich dyddiadur er mwyn blaenoriaethu prosiectau pwysig, diffodd eich rhybuddion e-bost a chyfryngau cymdeithasol yn ystod yr amser hwn a chanolbwyntio mewn gwirionedd ar y dasg rydych chi’n gweithio arni.
Gwella eich cydbwysedd bywyd a gwaith
Mae llawer ohonom yn gweithio gartref ar hyn o bryd ac mae’n hawdd gweithio wedi 5yh, gwirio e-bost dros y penwythnos neu trwy eich egwyl ginio. Gwnewch hi’n flaenoriaeth symud i ffwrdd o’ch desg amser cinio a gorffen am 5yh
Creu nodau cyraeddadwy
Gosodwch nodau clir am yr hyn rydych chi eisiau o’ch gyrfa a’u gwneud yn gyraeddadwy. Efallai ail-ysgrifennu’ch CV, cofrestru ar gyfer hyfforddiant ac ennill sgiliau newydd, neu ddod o hyd i fentor gwaith i’ch helpu chi i ddysgu mwy a datblygu yn eich swydd.
Dechreuwch gysylltu
Diweddarwch eich proffil LinkedIn a dechrau cysylltu â phobl debyg yn eich diwydiant. – Pwy a ŵyr pa ddrysau y gallai hyn agor yn y dyfodol?
Chwilio am her newydd yn 2021? Beth am ddod yn brentis yn 2021 a rhoi cychwyn da i’ch gyrfa?
Adolygwch ein holl rolau ar ein gwefan – cambriantraining.com
Os ydych chi’n fusnes sydd â diddordeb mewn llogi pobl newydd neu uwchsgilio’ch staff presennol, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn gefnogi’ch busnes yn 2021.