James Taylor yn ennill yr aur yn rownd derfynol WorldSkills mewn cigyddiaeth

Coronwyd James Taylor o Simpsons Butchers, Swydd Lincoln, yn bencampwr cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills 2017.

Mae’r fuddugoliaeth yn cloi blwyddyn aruthrol i’r cigydd ifanc, a enwyd yn Gigydd Ifanc y Flwyddyn Marco Peerdeman y Meat Trades Journal ym mis Tachwedd a chynrychiolodd Prydain yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol ym Awstria.

“Rydw i’n falch iawn o’r fuddugoliaeth, yn enwedig ar ôl yr holl waith caled a’r amser a ymroddwyd, nid dim ond gennyf i ond gan bawb sydd wedi fy nghefnogi i,” meddai Taylor ar ôl casglu ei fedal aur yn Birmingham ar ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd.

“Mae’n gyflawniad mawr ac wedi coroni blwyddyn dda gan fy mod i wedi ennill gwobr Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal ac roeddwn yn rhan o gystadleuaeth ryngwladol yn y DU. Dylai fod yn hwb enfawr i’m gyrfa a’m hyder ac, rwy’n gobeithio, bydd yn fy ngwthio i dyfu hyd yn oed ymhellach yn y diwydiant cig.”

Lucy Webster o Taylors Farm Shop, gogledd-orllewin Lloegr, yw’r ferch gyntaf erioed i ennill yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills, gan gymryd y fedal arian. Cipiodd James Gracey o’r Southern Regional College y wobr efydd.

Wrth ennill, dywedodd Webster: “Rydw i’n eithriadol o falch mai fi yw’r ferch gyntaf i ennill medal ac rwy’n gobeithio y bydd yn codi proffil cigyddiaeth ac yn ysbrydoli merched ledled y wlad i ddechrau gyrfa mewn cigyddiaeth.”

Daw’r fuddugoliaeth yn dilyn cystadleuaeth ddeuddydd yn yr NEC Birmingham o 16 i 17 Tachwedd. Gan ganolbwyntio ar y sgiliau hanfodol y mae eu hangen i fod yn gigydd arloesol, roedd rhaid i’r cystadleuwyr greu cynhyrchion parod i’w bwyta a pharod i’w coginio, selsig ffres, amrywiaeth lawn ar gyfer barbeciw a rhoddwyd eu sgiliau tynnu esgyrn, cigyddiaeth ar hyd y cyhyr a gwaith arddangos ar brawf.

Defnyddiwyd dros un dunnell fetrig o gig yn y gystadleuaeth a oedd yn eithriadol o agos yn ôl y tri beirniad, gyda safon gystadleuol uwch nag erioed o’r blaen.

“Mae James yn fachan penigamp, mae wedi cynrychioli Prydain Fawr, wedi ennill gwobr Cigydd Ifanc y Flwyddyn ac mae ganddo agwedd gadarnhaol ac angerdd ac yn cario’i hun yn dda iawn,” meddai’r beirniad Viv Harvey, ymgynghorydd cig annibynnol.

“Fel pob un yn y gystadleuaeth, mae ganddynt gariad at gigyddiaeth. Mae James yn gryfach oherwydd iddo gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau. Mae ei agwedd wedi aeddfedu – mae’n llysgennad gwych i’r diwydiant.”

Ochr yn ochr â Harvey, beirniadwyd cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills gan Roger Kelsey, prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd a Keith Fisher, prif weithredwr y Sefydliad Cig.

Cynrychiolodd y chwech yn y rownd derfynol gigyddion ifanc gorau’r DU. Bu rhaid i’r chwech ennill cyfres o rowndiau cymhwyso rhanbarthol cyn ymddangos yn y rownd derfynol.

Ochr yn ochr â Taylor, Webster a Gracey, cyrhaeddodd Joseph O’Gorman a Martin Nann y rownd derfynol, y ddau o Southern Regional College a Dylan Gillespie, Clogher Valley Meats, Gogledd Iwerddon.

Y Meat Trades Journal yw partner cyfryngau dethol cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills. Ymhlith y noddwyr eraill oedd Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales a’r FTC (Food and Drink Training & Education Council).