Lloegr yn ennill gornest goginio’r Frwydr am y Ddraig yng Nghymru

Ar adeg pan fo cefnogwyr rygbi Cymru mewn ing o hyd yn dilyn gorchfygiad dadleuol y Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf, cafodd Gymru ragor o siom ddoe (dydd Iau).

Daeth y ddwy wlad benben â’i gilydd eto, y tro hwn wrth i gogyddion ifanc dawnus gystadlu yng ngornest goginio’r Frwydr am y Ddraig ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos.

Unwaith eto, Lloegr ddaeth i’r brig gyda thîm coginio iau cenedlaethol y wlad yn mynd â Thlws y Ddraig adref gyda nhw wedi deuddydd o gystadlu yn erbyn Tîm Coginio Iau Cymru.

Heriwyd y ddau dîm i baratoi a choginio pryd tri chwrs i 90 o bobl. Cadwodd panel o feirniaid-gogyddion rhyngwladol lygad barcud ar eu gwaith yn y gegin cyn blasu’r prydau a rhoi eu dyfarniad.

Roedd tîm Lloegr, a reolwyd gan Matthew Shropshall ac a gapteiniwyd gan Edward Marsh, yn cynnwys Jack Gameson, Greg Evans, Nathan Lane ac Angelina Adamo.

Gwnaethant weini cwrs cyntaf ar ffurf halibwt fferm wedi’i rhostio mewn padell, croquette langwstîn, salad rhuddygl a chucumer, velouté Romanesco a langwstîn. Y prif gwrs oedd lwyn cig carw, cacen datws, piwrî ffenigl, bresych, boudin cefndedyn, madarch gwyllt wedi’u ffrio a saws port. Y pwdin oedd mousse siocled tywyll ac oren, teisen sitrws ac oren gwaed iâ.

Ers cystadlu yn y Gystadleuaeth Goginio Olympaidd yn 2016, lle enillon nhw ddwy fedal arian, mae Cymru wedi bod yn ailadeiladu ei thîm iau i ddisodli tri aelod sydd bellach yn rhy hen i gystadlu fel cogyddion iau.

Galwodd y rheolwr tîm Michael Evans, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo Menai, sef lleoliad y tîm, Harry Paynter-Roberts, demi chef de parti yn Manchester House, Manceinion a Catrin Thomas, y demi chef de partie yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd.

Yn gapten ar y tîm ar ei newydd wedd oedd enillydd newydd cystadleuaeth Cogydd Iau Cymru, Arron Tye, chef de partie yn Carden Park, Caer ac aelodau ei dîm oedd James Whalley, commis chef yn Tyddyn Llan, Corwen a Sarah Davies, chef de partie Bwyty Hayloft, Bodnant.

Coginiodd Cymru fwydlen a ddechreuodd gyda chragen fylchog wedi’i llosgi, langwstîn thermidor, granola, cucumer, picalili ac espuma bwyd môr. Y prif gwrs oedd tyner-lwyn o borc wedi’i lapio mewn prosciutto, peli o gig pen mochyn, moron wedi’u rhostio mewn mêl, piwrî moron, dail sbrowts, afalau a phannas gyda grefi porc. I orffen y pryd, cafwyd pwdin o afal Bramley, hufen iâ fanila a gwin coch.

Trefnir Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru gan Gymdeithas Coginiol Cymru a’r prif noddwr yw Bwyd a Diod Cymru, sef adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod.

Ymhlith y noddwyr eraill mae Hybu Cig Cymru, Castell Howell, Major International, Harlech Foods, H.N. Nuttall, Churchill, MCS Tech, Rollergrill, Koppertcress a Dick Knives.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru ar y ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd ar y ffôn: 01686 650818.