Mae pedwerydd enillydd ac enillydd olaf cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills wedi’i enwi.
Enillydd rownd yr Alban y gystadleuaeth oedd Stewart McClymont, o Blair Drummond Smiddy Farm Shop, ger Stirling. Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth fynd i’r Alban yn ystod ei hanes tair blynedd o hyd.
Enillwyd y tair rownd flaenorol gan: Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats a enillodd yng Ngogledd Iwerddon; James Taylor o Simpsons Butchers a enillodd rownd Leeds; a Jake Laidlaw o Andrews Quality Meats a enillodd y rownd yng Nghymru. Nid yw’r ffaith iddynt ennill yn eu rowndiau’n golygu y byddant yn cymhwyso’n awtomatig am y rownd olaf yn yr NEC Birmingham yn nes ymlaen eleni. Y chwe chigydd sy’n cael y sgorau uchaf, a ddatgelir ym mis Awst, fydd yn mynd i’r rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau.
Er mwyn ennill y rownd hon, bu rhaid i McClymont dorri ochr orau morddwyd eidion ar hyd y cyhyr mewn 45 munud, wedi’i ddilyn gan greu arddangosfa farbeciw arloesol, modd ei goginio mewn un awr a 30 munud. Er mwyn cwblhau’r ail dasg hon, darparwyd un cyw iâr gyfan, ochr orau morddwyd eidion, ysgwydd o gig oen Cymru a lwyn o borc heb asgwrn iddo.
Trefnir cystadleuaeth Worldskills gan y darparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a ddiolchodd i’r Scottish Craft Butchers am gynnal rownd yr Alban.
Y Meat Trades Journal yw partner cyfryngau unigryw’r gystadleuaeth, gyda’r noddwyr yn cynnwys Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, Cyngor Hyfforddiant ac Addysg Bwyd a Diod, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, ac ymgynghorydd y diwydiant, Viv Harvey.
Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau Worldskills yn fuan.