Enwi enillydd rownd cigyddiaeth Cymru Worldskills

Enwyd Jake Laidlaw o Andrews Quality Meats yn Swindon yn enillydd rownd Cymru cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills.

Dywedodd y cigydd 25 oed (yn y llun) ei fod yn falch iawn o ddod yn gyntaf, o ystyried mai dyma oedd ei flwyddyn gyntaf yn cystadlu yn yr her. Trechodd gystadleuaeth ar ffurf Sam Hughes, 22 oed o Brian Crane Butchers yn Hengoed; Emily Barber, 18 oed a myfyrwraig yng Ngholeg Reaseheath; a Connor Sloane, 23 oed, sydd hefyd yn fyfyriwr yn Reaseheath. Rhoddodd trefnydd y gystadleuaeth, sef Hyfforddiant Cambrian, glod i’r holl ymgeiswyr, yr oedd pob un ohonynt yn newydd i’r gystadleuaeth, am ddangos brwdfrydedd mawr drwy’r ornest.

Cafodd y cigyddion ifanc y dasg o dorri ochr uchaf darn o gig eidion ar hyd y cyhyrau mewn 45 munud, wedi’i ddilyn gan dasg a roddodd 1 awr a 30 munud iddynt roi arddangosfa barbeciw dymunol i’r llygaid at ei gilydd gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol gigoedd.

Er iddo ennill rownd Cymru, ni fydd Laidlaw’n mynd trwyddo i rownd derfynol y sioe sgiliau yn yr NEC yn Birmingham yn awtomatig. Yn hytrach, y chwe sgoriwr uchaf ar draws pob rownd fydd yn mynd ymlaen.

Beirniadwyd y gystadleuaeth gan Keith Fisher, prif weithredwr y Sefydliad Cig, Roger Kelsey, prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, a’r ymgynghorydd cig annibynnol, Viv Harvey.

“Yr hyn rydym yn edrych arno yw pobl ifanc – yn enwedig Jake – a roddodd gryn dipyn o ymdrech i’w waith cynllunio i wneud yn si?r fod ei arddangosfa’n cyrraedd y nod o ran bod yn glinigol iawn, yn lân iawn o ran paratoi a chyflwyno arddangosfa oedd yn llawn gwybodaeth gydag ystod eang o gynhyrchion, a oedd yn gweddu’n ddelfrydol i farbeciwiau,” esboniodd Fisher.

“Yr hyn y mae’r cystadlaethau hyn yn ei wneud – ac rydym wedi’i weld yn eithaf clir dros y blynyddoedd diwethaf – yw ar ôl i’r cigyddion ifanc ymroi i ddod i wneud rhywbeth fel hyn, mae’n magu eu hyder ar gyfer y dyfodol, a dim ond daioni y gall hynny ei wneud i sefydlogrwydd y fasnach gig.”

Enillodd Dylan Gillespie, Clogher Valley Meats, rownd Gogledd Iwerddon yr wythnos diwethaf, ar ôl dod yn ail yn rownd derfynol fawreddog y llynedd yn y Sioe Sgiliau.

Trefnodd y darparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y gystadleuaeth gyda phartner cyfryngau unigryw y Meat Trades Journal. Ymhlith y noddwyr mae Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd; y Sefydliad Cig; y Cyngor Hyfforddiant ac Addysg Bwyd a Diod; Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales ac ymgynghorydd y diwydiant, Viv Harvey.