Canlyniadau arolwg ‘rhagorol’ i Gwmni Hyfforddiant Cambrian

Mae prentisiaid a chyflogwyr a holwyd yn ystod eu taith Brentisiaeth gyda’r darparwr hyfforddiant arobryn Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) wedi rhoi gradd uchel o ‘rhagorol’ i’r cwmni yn y Trallwng.

Cynhelir y ddwy set o arolygon ar bwyntiau allweddol ar hyd y daith ddysgu, sef 3 mis, 8 mis ac ar y diwedd gyda’n holl gyflogwyr a phrentisiaid sy’n cymryd rhan yn y rhaglen brentisiaeth.

Canfu’r arolygon diweddar ar ôl 8 mis, y cafwyd y cyfraddau rhagorol canlynol:

  • gwnaeth 100% o’r dysgwyr a holwyd ddisgrifio proffesiynoldeb, hyblygrwydd, dibynadwyedd a gwybodaeth y cwmni am y pwnc fel ‘rhagorol’.
  • dywedodd 96% y bydden nhw’n argymell y cwmni i bobl eraill ac roedden nhw’n fodlon gyda’r cymysgedd o theori ac ymarfer yn y rhaglenni.
  • 83% ar gyfer profiad cyffredinol a pherthnasedd yr hyfforddiant
  • 78% ar gyfer yr amgylchedd, cadw t? a gwrando ar eu safbwyntiau ac ymwneud y cyflogwr.

Ar ddiwedd eu rhaglen, parhaodd yr ymateb aruthrol gyda 97% o’r dysgwyr yn disgrifio proffesiynoldeb, hyblygrwydd a dibynadwyedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel ‘rhagorol’.

Dyma ‘gyfraddau rhagorol’ eraill:

  • 94% ar gyfer gwybodaeth am y pwnc
  • 85% ar gyfer y profiad dysgu
  • 83% ar gyfer cyngor ar gwblhau rhaglenni

Mae arolygon yn rhan bwysig o’r busnes gan eu bod yn ein galluogi i gasglu adborth a chlywed lleisiau pwysig y Prentisiaid a’r Cyflogwyr sydd wrth wraidd ein busnes.

Mae’r rhain yn helpu CHC i ddynodi elfennau ar gyfer gwelliant trefniadol a rhoi mentrau ar waith i sicrhau ein bod yn cyflwyno hyfforddiant ansawdd uchel, hyblyg ac wedi’i deilwra sy’n bodloni ac yn rhagori ar anghenion ein cwsmeriaid.

Yn arolygon y Cyflogwyr, cafwyd y cyfraddau ‘rhagorol’ canlynol:

  • dywedodd 95% fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hyblyg a chynhaliwyd asesiadau ar weithgareddau realistig
  • dywedodd 94% fod eu gweithwyr yn ennill sgiliau
  • roedd 93% yn fodlon â lefel y gefnogaeth a ddarparwyd.

“Defnyddiwn yr arolygon pwysig hyn er mwyn asesu’n perfformiad a gwella’r gwaith o gyflwyno dysgu a gwasanaethau,” meddai Cyfarwyddwr Ansawdd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Anne Jones. “Mae’n hanfodol ein bod ni’n datblygu ac yn rhoi gweithdrefnau newydd ar waith yn barhaus sy’n sicrhau ansawdd cyflwyno prentisiaethau ledled Cymru.”

Mae’r rhaglenni a gyflwynir yn cynnwys Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau ac Uwch Brentisiaethau ar draws; Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Gwasanaethau Cwsmeriaid ac Adwerthu, Gwasanaethau Ariannol, Arwain a Rheoli Tîm, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar Plant, Rheoli ac Ailgylchu Adnoddau Cynaliadwy a Cheffylau.

“Credwn yn gryf o weithio’n agos gyda Phrentisiaid a Chyflogwyr ein bod yn rhoi cyfleoedd prentisiaeth ychwanegol iddynt ac yn eu helpu i dyfu gweithlu hynod fedrus a mwy cynaliadwy”