Cyfleoedd am Brentisiaethau newydd i Fusnesau a Dysgwyr Cymru

Mae gennym newyddion gwych i fusnesau a dysgwyr ledled Cymru sy’n edrych i gynyddu a gwella’u sgiliau a’u cymwysterau yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Oherwydd y newidiadau yng nghanllawiau cyllid blaenoriaeth Prentisiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17, rydym bellach yn gallu cynnig ystod fwy o gyfleoedd i fusnesau gynyddu eu hymwneud gyda rhaglenni hyfforddi prentisiaethau ar bob lefel ar gyfer eu gweithwyr.

Mae’r arolygon wedi dangos yn gyson fod prentisiaethau’n creu gweithlu mwy uchel ei gymhelliant, hynod fedrus, cymwys ac ymatebol, felly nawr yw’r amser i’ch busnes ddarganfod beth yn union yw arlwy Cwmni Hyfforddiant Cambrian i’ch gweithwyr newydd a phresennol sy’n dymuno gwella’u sgiliau.

“cadarnhaodd 99% o’n cyflogwyr fod y prentisiaethau’n cyfateb yn llwyr i’w hanghenion hyfforddiant busnes”

Mae’r prif newidiadau mewn blaenoriaethau’n adlewyrchu ymroddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prentisiaid iau, annog sgiliau lefel uwch, cefnogi ymgeiswyr newydd gan greu mwy o gyfleoedd i weithwyr ennill wrth iddynt ddysgu er mwyn datblygu eu sgiliau.

Y prif newidiadau:

  • Mae prentisiaethau ar gael ar bob lefel i bobl ifanc 16-19 oed, p’un a ydyn nhw’n weithwyr presennol neu newydd mewn unrhyw sector.
  • Mae dysgwyr 20 oed a h?n sy’n newydd i’w swydd neu rôl o fewn y 12 mis diwethaf yn gymwys i unrhyw gymhwyster prentisiaeth yn y sectorau blaenoriaeth canlynol a gyflwynwn; Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Rheolaeth/Ailgylchu Adnoddau Cynaliadwy.
  • Nid oes cyfyngiad oedran ar gyfer unrhyw brentisiaethau uwch (lefel 4+) mewn unrhyw sector.

Os ydych chi eisiau cynyddu’ch ymgysylltiad gyda phrentisiaethau neu wedi nodi angen hyfforddiant yn eich busnes, gallwn helpu’ch cefnogi i wneud gwir wahaniaeth i berfformiad eich busnes.

Er mwyn cael gwybod sut gallwn helpu diwallu’ch anghenion hyfforddiant ar gyfer 2016/17, ffoniwch 01938 555893 neu anfonwch e-bost; info@cambriantraining.com