Prentisiaid yn teithio i Fadagascar yn dilyn cyfle Twf Swyddi Cymru

Nid oedd gan James Rees a Lili Woollacott syniad y byddai cofrestru ar gyfer rhaglen Twf Swyddi Cymru yn agor cyfle iddynt deithio i Fadagascar i ddarganfod sut mae cacao yn cael ei gynhyrchu iddynt wneud siocled Cymreig â llaw o ansawdd.

Ond dyna’r union beth ddigwyddodd mis diwethaf pan hedfanodd saith o weithwyr Siocled NOMNOM yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, sy’n tyfu’n gyflym, hanner ffordd o amgylch y byd i wella’u dealltwriaeth o’r gadwyn gyflenwi siocled.

Roedd y daith yn syniad sylfaenydd y cwmni Liam Burgess, Willy Wonka modern â’i ffatri siocled ei hun. Treuliodd ef a’i dîm wyth diwrnod ym Madagascar lle gwnaethant ymweld â phlanhigfa cacao, ffatri gweithgynhyrchu a chartref i blant amddifad, â chysylltiadau cryf â Chymru.

Mae James a Lili, y ddau ohonynt yn 20 mlwydd oed, wedi ymuno â Siocled NOMNOM ar raglen Twf Swyddi Cymru, sy’n rhoi chwe mis o brofiad gwaith hanfodol i bobl ifanc 16 i 25 mlwydd oed, gyda chyflogwr ar yr isafswm cyflog o leiaf. Ar ddiwedd y chwe mis, mae’r cyflogwr yn cael cyfle i gyflogi’r unigolyn ifanc.

Mae’r cwmni wedi cadw James a Lili ar ôl chwe mis a bellach maent wedi dechrau ar brentisiaethau, sy’n cael eu darparu gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Ariennir rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaeth gan Lywodraeth Cymru â chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Lili yn gweithio tuag at brentisiaeth mewn gweinyddiaeth busnes ac mae James a’i gydweithwyr Caleb Young, Brendan Turnbull-O’Connor a Seren Atterbury yn ceisio prentisiaeth mewn sgiliau’r diwydiant bwyd i gefnogi twf parhaus y busnes arloesol.

Gan adlewyrchu ar ei ymweliad â Madagascar, dywedodd James, 20, o Arberth: “Roedd yn brofiad anhygoel. Roedd yn wych ymweld â’r blanhigfa cacao i weld lle mae’r gadwyn gyflenwi siocled yn dechrau.

“Gwnaethom hefyd ymweld â chartref i blant amddifad a oedd yn brofiad arall anhygoel. Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl a bellaf rwyf eisiau tyfu gyda’r busnes cyffrous hwn, sy’n cyflogi pobl ifanc.”

Mae Lili wedi bod gyda NOM ers dwy flynedd a hanner a dywedodd: “Dyma fy swydd gyntaf ac mae’n anhygoel bod yn rhan o fusnes bach a’r pethau cyffrous sy’n digwydd yn NOM. Rwy’n meddwl bod Twf Swyddi Cymru yn ffitio’n dda iawn â’n busnes oherwydd ei bod yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc weld a allant ffitio i mewn. Mae’r rhaglen yn dda i gyflogwyr a gweithwyr.

“Ers mis Chwefror, rwyf wedi symud o’r llinell gynhyrchu i werthiannau a gwasanaeth i gwsmeriaid a dwi’n mwynhau’r gwaith yn fawr iawn. Mae gwybod y busnes tu chwith allan wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a chynyddu fy hyder. Yn y gorffennol, nid oedd gennyf yr hyder i fynd at bobl newydd ond mae pawb rydym yn gweithio gyda nhw mor frwdfrydig yngl?n â’n cynnyrch arloesol.”

Dywedodd Liam fod ei fusnes wedi cael cymorth rhaglen Twf Swyddi Cymru, sy’n caniatáu iddo gyflogi staff ychwanegol ar adeg pan mae arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes.

“Rydym yn tyfu mor gyflym ein bod yn ail-fuddsoddi arian sydd ar gael yn y busnes yn gyson,” meddai. “Mae Twf Swyddi Cymru yn caniatáu i ni gyflogi staff wrth i lif arian cynyddu ac ar ddiwedd y chwe mis mae ganddynt gyflogaeth sicr.

“Mae’r chwe mis hynny’n hanfodol, yn enwedig os ydych yn cyflogi pobl nad ydynt wedi cael swydd o’r blaen. Mae gennym ddiwylliant yma lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ddefnyddio eu creadigrwydd a thyfu gyda’r cwmni.”

Cyn bo hir mae Liam yn cynllunio ehangu i mewn i eiddo llawer mwy ar draws y ffordd yn hen ffatri Siocled Pemberton yn ddiweddarach eleni. Mae’n gobeithio prynu’r ffatri trwy gyllido torfol ac mae eisiau i gymaint o fuddsoddwyr bach â phosibl gael cyfran yn ei fusnes, yn hytrach na cheisio cymorth oddi wrth fuddsoddwyr masnachol mawr.

Ei genhadaeth yw dod yn ffatri siocled gorau’r byd, ac mae’n cael ei ysbrydoli gan gymeriad enwog Roald Dahl, Willy Wonka. “Dwi dal i fod yn aros i ddeffro o’m mreuddwyd,” cyfaddefodd Liam. “Rwyf wedi tyfu’r ffatri o ddim mewn tair blynedd ac wedi adeiladu ffatri siocled, sy’n hollol wallgof. Gwyliwch allan Cadbury!

“Dywedodd Dahl ‘Ni fydd y rheiny nad ydynt yn credu mewn hud byth yn ei ddarganfod’ ac ‘Os nad yw’n feiddgar, ni fyddwch yn llwyddo’. Mae stori Siocled NOMNOM yn eithaf ‘Wonkaesque’. Rydym yn troi i mewn i fersiwn go iawn Willy Wonka a’r Ffatri Siocled.”

Mae Liam yn priodoli ei ddiddordeb mewn siocled i fyw drws nesaf at ffatri Bournville ym Mirmingham am ran o’i blentyndod, a chafodd gymorth benthyciad £3,000 oddi wrth Ymddiriedolaeth y Tywysog i sefydlu ei fusnes, a ddechreuodd mewn carafán yng ngardd ei fam.

Aeth ef a’i staff i Fadagascar ar ben-blwydd y cwmni’n 3 oed, Mai 13 ag ystadegyn yn amlwg yn ei feddwl: mae 90 y cant o bob busnes yn methu yn y tair blynedd gyntaf.

Mae ei fusnes wedi goresgyn y rhwystr hwnnw ac yn edrych ymlaen at y dyfodol â llawer o optimistiaeth, oherwydd bod ei siocledi, sy’n cael eu cynhyrchu mewn 14 gwahanol flas Cymreig, bellach ar werth mewn mwy na 450 o siopau annibynnol ar draws y DU. Mae’r blasau’n newid gyda’r tymhorau, ac yn cynnwys Wafflau Tregroes, Cacen Gri, Bara Brith a Halen Môn, i enwi nifer fach yn unig.

Mae Siocled NOMNOM wedi ymrwymo i ddod yn Gorfforaeth B ardystiedig, sy’n darparu fframwaith ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno rhoi budd i gymdeithas yn enwedig a’u cyfranddalwyr.

Mae Liam eisiau i gynnyrch y cwmni gael ei gynhyrchu’n foesegol ac mae’n sefydlu cynllun rhoddion ar gyfer y cartref i blant amddifad ym Madagascar, yr ymwelodd ef a’i dîm ag ef. Ei nod yw cael ei holl gacao o Fadagascar er mwyn grymuso pobl yn y gadwyn gyflenwi i wella’u bywydau.

Dywedodd Chris Jones o Gwmni Hyfforddiant Cambrian: “Liam yw’r cyflogwr delfrydol i weithio gydag ef ar gyfer rhaglen Twf Swyddi Cymru. Mae’n credu mewn rhoi cyfle i bobl ifanc, yn darparu cyfleoedd cyffrous iddynt ac yn eu cyflogi ar ddiwedd y chwe mis.

“Mae’n dymuno i’w staff ddysgu pethau newydd i dyfu a gwneud y busnes yn well. Mae’n Willy Wonka modern ac mae o wedi datblygu busnes anhygoel.”

Capsiwn y llun:
Sylfaenydd NOM Liam Burgess (canol) gyda’i weithwyr Lili Woollacott, Callum Coxon, Seren Atterbury, James Rees, Lou Garrett, Brendan Turnbull-O’Connor a Rene Julian a’i dîm ym Madagascar.

Plant-nom
Mae’r tîm o NOM yn archwilio’r ffa coco gyda Thomas sy’n rhedeg planhigfa Marva a Nicolas, aelod o dîm allforio Chocolat Madagascar.

nom
Y prentis Seren Atterbury gyda choden coco.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Liam Burgess yn Siocled NOMNOM ar Ffôn: 01994 448 761, Katy Godsell yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.