Mae gofalu am eich iechyd meddwl o’r flaenoriaeth uchaf ac nid oes gwell diwrnod i ofalu am eich hun a a chael y mwyaf allan o’ch bywyd na nawr gan ei bod hi’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yfory! Er mwyn helpu, dyma 10 ffordd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl. Nid oes angen i fân newidiadau a newidiadau hawdd i’ch bywyd gostio’r byd na bod yn faich ar eich amser.
1. Amser i Siarad
Mae’n bryd rhoi’r tegell ymlaen a chael paned! Gall gwneud amser i drafod eich teimladau gyda ffrindiau a theulu eich helpu i gadw eich meddwl yn iach a bydd o gymorth i ddelio gydag unrhyw broblemau allai fod yn eich poeni. Nid yw siarad yn arwydd o wendid a hwn yw’ch cyfle chi i reoli’ch lles.
2. Symudwch
Gwisgwch yr esgidiau hyfforddi oherwydd mae’n amser symud! Mae ymarfer corff rheolaidd yn bwysig oherwydd mae’n gallu rhoi hwb i’ch hunan-barch, eich helpu i ganolbwyntio, cysgu ac, ar y cyfan, eich gwneud chi i deimlo’n well. Mae ymarfer corff yn rhyddhau cemegolion ‘hapus’ yn eich ymennydd ac yn gwneud i chi deimlo’n dda a fydd o les mawr tuag at wella’ch iechyd meddwl.
3. Bwyta’n Iach
Wrth wraidd corff iachach, mae diet cytbwys bob amser, ac yn yr un modd ag organau eraill eich corff, mae angen cymysgedd o faetholion ar eich ymennydd hefyd er mwyn cadw’n iach a gweithredu’n dda. Beth am gymryd golwg ar ein 5 cam hawdd i gorff iachach er mwyn dechrau arni? Cliciwch fan hyn >>
4. Yfed yn Synhwyrol
Mae meddwl cyn penderfynu faint o ddiod feddwol i yfed yn bwysig oherwydd dros dro yw’r effaith mae’n ei gael a phan fydd yn gadael y corff gallai wneud i chi deimlo’n waeth. Nid yw yfed yn ffordd dda o reoli teimladau anodd. Mae yfed ysgafn achlysurol yn gwbl iach.
5. Cadw mewn Cysylltiad
Dim ots sut ydych chi’n dal i fyny gyda theulu neu ffrindiau, mae cadw mewn cysylltiad â’ch gilydd yn bwysig! Felly ffoniwch nhw, cymdeithaswch ar-lein neu anfonwch neges atynt gan fod cadw’r ffyrdd hynny o gyfathrebu yn llesol i chi ac iddynt hwy!
6. Gofyn am help
Pobl ydyn ni i gyd a bydd angen help llaw ar bob un ohonom ar ryw adeg. Felly, os ydych chi wedi blino, yn teimlo bod pethau’n eich llethu, yn methu ymdopi neu os nad yw pethau’n mynd fel yr oedden nhw i fod – gofynnwch am help. Efallai y gall eich teulu a ffrindiau helpu neu gysylltu â’ch swyddog hyfforddiant neu wasanaethau lleol. Dyma rai llinellau cymorth i gael rhagor o wybodaeth – Cliciwch fan hyn >>
7. Amser i gael egwyl
Rhowch rywfaint o amser i chi’ch hun. Mae bywydau pob un ohonom yn brysur felly byddai cymryd egwyl haeddiannol yn dda i’ch iechyd meddwl. Gallai fod yn unrhyw o beth o saib am bum munud, hanner awr cinio yn y gwaith neu benwythnos i ffwrdd ar antur newydd. Gall cwpl o funudau fod yn ddigon i godi’r straen.
8. Carwch yr hyn rydych chi’n ei wneud
Gall mwynhau eich hun eich helpu i frwydro yn erbyn straen a gofalu am eich iechyd meddwl. Felly, gwnewch rywbeth rydych chi’n ei garu a dewiswch weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau oherwydd mae’n golygu eich bod chi’n dda am ei wneud mwy na thebyg a bydd cyrraedd nod yn rhoi hwb i’ch hunan-barch.
9. Derbyn eich hun
Mae pob un ohonom yn wahanol ac yn unigryw yn ein ffyrdd bach ein hunain. Mae’n llawer iachach derbyn pwy ydyn ni yn hytrach na chymharu’ch hun gyda phobl eraill. Gall teimlo’n dda amdanoch eich hun roi hwb i’ch hyder i ddysgu sgiliau newydd, archwilio lleoedd newydd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hunan-barch da eich helpu i obeithio pan fydd bywyd yn anodd. Gallwn ni eich helpu chi i ddysgu sgiliau newydd yn y gwaith – cymerwch olwg ar ein cymwysterau prentisiaeth fan hyn >>
10. Gofalu am eich gilydd
Mae gofalu am eich ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn bwysig a bydd yn helpu meithrin cysylltiadau cryf gyda’r bobl sy’n agos atoch. Bydd bod yno ar gyfer ein gilydd ar adegau o angen yn eich helpu chi trwy’r adegau isel a hapus. Felly gwnewch amser i gadw mewn cysylltiad a sgwrsio.